Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Harlech, a daeth yna Mathalwch, pen-teyrn Iwerddon, gyda llynges i erchi am Bronwen, chwaer Bran, yn wraig Llwyddodd yn ei gais, a dychwelodd i'r Iwerddon. Yn mhen amser sarhaodd Mathalwch Fronwen ei wraig, trwy roddi palfawd iddi ar ei chlust; yr hon balfawd. a elwir yn y trioedd yn un o "dair engir balfawd Ynys Prydain." Wedi i Fronwen gael y fonglust gan Fathalwch, gadawodd yr Iwerddon ar frys: a thra ar ei thaith i Harlech, yn y rhandir crybwylledig ar lan afon Alaw, trodd drach ei chefn, gan edrych mewn digllonedd llidiog tua'r Iwerddon; oblegyd y sarhad a dderbyniodd, torodd ei chalon, a bu farw yn y fan. Llosgwyd ei chorff yn barchus, yn ol arferiad yr oes, a rhoddwyd ei lludw mewn urn bridd, a chladdwyd ef dan garnedd fawr o geryg yn y llanerch dan sylw; a dyna yr achos i'r lle gael ei alw yn " Ynys Bronwen."

Gwel y manylion yn "Hanes Cymru," gan y Parch. O. Jones.

PLWYF NEWBOROUGH.

Saif y plwyf hwn oddeutu pedair milldir i'r gogledd-orllewin o Gaernarfon. Tardda ei enw presenol oddiwrth ei bod wedi ei gwneyd yn fwrdeisdref freiniol gan Iorwerth I. Yr hen enw oedd Rhos Fair; tarddai yr enw hwn oddi wrth eglwys fechan a gysegrwydi St.. Mary. Gwel tudal. 39.

Y mae'r lle hwn yn bur ddinodedd, ond bu yn lle pwysig ar y dechreu, yn drigfa am lawer o flynyddau i dywysogion Cymru. Bu ganddynt freninlys yma, ac yn achlysurol penodwyd eisteddle y llywodraeth er mantais tra parhai y terfysgoedd, &c. Ar ol gorchfygiad y Cymry gyntaf gan Iorwerth I, ymddengys fod y lle hwn wedi