Newborough yn hawlio o hyd ragorfraint mewn rhan yn etholiad aelod dros Beaumaris; ond gwrthwynebwyd yr hawl yn egniol gan fwrdeisdrefwyr Beaumaris, a'r achos a ddygwyd mewn canlyniad i'r Ty Cyffredin (House of Commons,) yn y fl. 1709, tra y mynegwyd hawl gyfraethlawn yr etholiad i fod gan y Maer, y pentrefwyr, ynghyda prif fwrdeisdrefwyr Beaumaris yn unig. Hefyd, gwnaethant gyffelyb ymdrechion i adenill y ddinasfraint yn 1722 a 1724, ond gyda yr un canlyniad. Yn amser Iorwerth III., cynwysai Newborough ddim llai na deg-a-phedwar-ugain o adeiladau heirdd, yn cael eu galw yn "Extent Places." Hefyd, ceir cyfeiriad yn. un prawf-ysgrif at ddeg-ar-hugain o erddi, un berllan, a deuddeg o gaeau crops, ac uwchlaw tri ugain o fields, parks, neu amgaeau hirion, (long enclosures,) a phreswylid hwy gan bobl gwir barchus. Y fywiolaeth eglwysig sydd berigloriaeth yn archddeoniaeth Môn, yn esgobaeth Bangor. Trethid ef yn "King's books " yn 9p. 10s, ac yn ngadogaeth y goron, megys Tywysogion Cymry. Y cyfartaledd blynyddol at gynal tlodion y plwyf ydyw 182p. 198.
Y periglor presenol ydyw y Parch. Thomas Meredith, gynt o Amlwch.
Y mae yma leoedd o addoliad hefyd gan y Trefnyddion Calfinaidd a Wesleyaidd.
LLANDDWYN.—Dywedir nad oes amser maith er pan weithiodd y môr ei ffordd drwy "Wddw Llanddwyn.” Gwneir cais at uno yr ynys a'r arfordir cyfagos, trwy gyfrwng math o sarn, ac felly ei chlymu â chadwen o feini wrth "arffedog Môn, mam Cymru," fel y dywed "Viator" yn Nghronicl Cymru. Dechreuwyd y gwaith -a deuparth gwaith yw dechreu. Wedi ei orphen ef,