Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bydd yn dra gwasanaethgar. Yn y gwastadedd bychan a thywodlyd, yn orchuddedig â gwellt a rhedyn, ceir hen ferddyn llwydaidd, adfeilion y prebendŷ, ond odid, ac anedd y "Deon Du," o enwog goffadwriaeth am offeiriad olaf y plwyf a oresgynwyd er's dyddiau lawer gan donau a thywod y môr, fel ag y prawf rhai hen weithredoedd ag sydd ar gael ato.

Hefyd, ceir adfeilion monachlog ar ganol y gwastatir hwn. Y mae'r olwg arni yn bruddglwyfus,-fel un yn wylo am ei phlant, a'r gogoniant wedi llwyr ymadael o honi ers llawer dydd; ond y mae'r hyn a erys o honi yn ddigon i ddangos ei mawredd a'i chadernid gynt, pan ydoedd yn ogoniant penaf y fro. Sylfaenwyd yr adail ar lun y groes. Nid oes nemawr o'r deml odidog yn aros oddigerth y gangell. Mae muriau hon yn aros hyd y dydd hwn, ac iddi ffenestr ddwyreiniol enfawr, a dwy ffenestr ystlysol o gryn faintioli.

"Wel, dyma'th gangell wiwgu,
Ond p'le mae'th allor fawr,
Lle gwelwyd gynt yn mygu
Y thuser lawer awr ?"

Yn uniad y ddau fur gogleddol y gangell, y mae olion rhywbeth tebyg i dŵr haner-grwn.

O gylch yr eglwys mae rhywfaint o weddillion gwael mur y fynwent. Ychydig gamrau i'r gorllewin, ceir olion rhyw hen adeiladau gweddillion "pentref" Llanddwyn. Dywedir y bu yma wyth o dai bychain yn amser Iorwerth III., y rhai a elwid "Welas." Tybir i ferch Brychan seilio ei "chell" (cloister) ar yr ynys hon oddeutu y fl. 590 O.C. Dewisodd y wyryf Dwynwen neillduaeth Llanddwyn yn hytrach na mwyniant a mawredd llys ei thad. Sefydlodd ei chwaer Ceinwen ei chell yn Llangeinwen, a sefydlodd ei brawd Dyfnan