ei eglwys yn Llanddyfnan, yn yr un sir. "Y cyfiawn fydd byth mewn coffadwriaeth." Ceir nifer mawr o eglwysi plwyfol Cymru yn gof-golofnau hyd y dydd hwn o dduwioldeb meibion a merched Brychan Brycheiniog. Cyfrifid Dwynwen yn "noddes cariadau," a cheir gan Dyfydd ap Gwilym, bardd serch, gywydd iddi yn dwyn y penawd "Cywydd i Dwynwen Santes, i geisio ganddi wneuthur lletyaeth rhyngtho a Morfydd." Dechreua—
"Dwynwen deyrdd anian degwch,
Deg wyr o gor fflamwyr fflwch," &c.
Cedwid Dy'gwyl Dwynwen yn mis Ionawr. Daeth ei "chell" i fri cyffredinol yn y canol-oesau, ac yn gyrchfa "pererinion" lawer, y rhai a ddygent roddion ac offrymau gwerthfawr i'w hallor, nes iddi ddyfod yn "relique church fras." Hefyd, dywedir mai Llanddwyn oedd y brebendariaeth (bersonoliaeth) frasaf ynglyn ag Eglwys Gadeiriol Bangor, yn nheyrnasiad Harri VIII. Prisir rectoriaeth Llanddwyn yn "liber regis" (King's book,) yn 14p. Y noddwr yw Esgob Bangor—dim degwm; felly, nid oddiwrth ffrwythlonedd y tir, ond oddi. wrth ofergoeledd y werin—oddiwrth bererindeithiau at graiau, ffynnonau sanctaidd, ac ofergoelion deiliaid gwaddol yr eglwys hon! Dywedir fod yn nyddiau Dafydd ap Gwilym (yn nghylch canol y bedwaredd-ganrifar-ddeg), luaws mawr o bobl o holl Gymru, yn ymgynull i eglwys St. Dwynwen, yn Môn, yr hon a elwir Llanddwyn. Yma y cedwid canwyllau cwyr yn oleu yn wastadol oddiamgylch bedd y forwyn-sant hon, a phawb a fyddent mewn cariad a ymwelent a hi, yr hyn a ddygai elw mawr i'r mynachod; ac yr oedd Dwynwen mor enwog yn mhlith yr hen Frythoniaid mewn achosion caredig, ag y bu y dduwies "Venus" erioed yn mhlith y