"Deon Du" yn eglwys Bangor, ac yr oedd cerflun o hono ar efydd, gyda'r feddargraff isod yn llawr yr Eglwys Gadeiriol:—"Orate pro anima Richardi Kyffin, hufus Ecclesia Cathedralis decani, qui in dicta Ecclesia fundavit cantoriun sacredatum, ordinavit at celebrandum pro anima Abiit XXII, die mensis Augusti, MECCCCII," (1502).
Desgrifir Llanddwyn gan un hanesydd fel "a cell of benedictive Monks **** a very small chapter of canons." Cysegrwydd eglwys Llanddwyn oddeutu y fl. 465, i St. Dwynwen. Codwyd y drysorfa fel y crybwyllwyd yn barod oddiwrth offrymau amryw ddiofrydwyr, y rhai oedd yn dra lluosog. Hefyd, codid treth gan y Monks of benediction ar y dieithriaid, y rhai fyddai yn gofyn am eu tynged dyfodol, yr hyn a rhagfynegid gan ymddangosiad pysgodyn ar wyneb dyfroedd ffynnon oedd yn cael ei galw yn "Ffynnon Fair" (St. Mary's Well.)
PLWYF LLANGWYLLOG.
Saif y plwyf hwn, rhan yn nghwmwd Llifon, rhan yn Menai, a rhan yn Malltraeth. Gorwedda oddeutu tair milldir i'r gogledd-orllewin o Langefni.
Cysegrwyd yr eglwys i St. Gwillog, merch Caw o Brydain, neu Caw o Dwrcelyn, yn Llanerchymedd. Rhoddwyd y plwyf hwn, gan un o dywysogion Cymru, i brior-dy Penmon. Y ddwy faerdref, Cefn-y-Dderi a Thre-ysgawen, ydynt yn gorwedd yn nghwmwd Menai; mae rhanau eraill o'r plwyf yn nghwmwd Llifon, a'r llall yn Nhwr Celyn (tir cyhelyn). Cysylltir ef â phlwyf Tregaian. Cymerodd brwydr waedlyd le yma mewn man o'r enw Maes Rhos Rhyfel, yn y fl. 1143, rhwng galluoedd Owain Gwynedd (tywysog Gogledd Cymru),