a byddinoedd unedig Erse, Manks, a Norwegians, y rhai a ruthrasant i'r ynys hon. Yn y frwydr hon, bu Owain yn fuddugoliaethus. Bu galluoedd llyngesol Cymru ar waith yn y frwydr yma, a llwyddasant i vru holl longau y gelynion i ffordd o fau Dulas. Cadwyd hanes y frwydr hon mewn awdl goffadwriaethol i Owain Gwynedd, yn yr hon y mae canmoliaeth i orchestwaith y tywysog hwn; dywedir nad yw wedi cael sylw un hynafiaethydd Cymreig yn flaenorol.
Maes Rhos Rhyfel.—Derbyniodd yr enw yma oddiwrth y frwydr grybwylledig. Heb fod yn mhell o'r lle hwn mae lle o'r enw "Castell," hanes dechreuol yr hwn sydd anhysbys. Dywedir fod arian ac argraff Nero, Vespasian a Constantine, wedi eu cael yma amryw weithiau mewn sefyllfa dda; ac yn y fl. 1829, cloddiwyd i fyny ddarn o aur ac argraff Vespasian arno yn eglur.
Cors-y-Gedol.—Tybir mai llygriad yw y gair hwn o "Cors-y-gad-ol," (ol-fyddin). Tybia eraill iddo gael yr enw oddiwrth un o'r enw Gedol.
PLWYF RHOS COLYN.
Mae y plwyf hwn yn y cwr eithaf o'r ynys, ar yr ochr orllewinol; y mae yn nghwmwd Menai, ac yn sefyll oddeutu pum' milldir i'r de-ddwyrain o Gaergybi. Cysegrwyd yr eglwys oddeutu y chweched ganrif i St. Gwenfaen, chwaer Peulon, i'r hwn y cysegrwyd Llanbeulan-mab a merch Paul Hen, o ynys Manaw. Y mae yn bur debygol fod yr enw hwn wedi tarddu oddiwrth Rhos-y-golofn, (a stone column or pillar) a godwyd yma gan y Rhufeiniaid, yn arwydd coffadwriaethol o'u goruchafiaeth.