y tywyn hwn y gelwir y lle gan y beirdd yn Aberffraw wen:
"Onid Aberffraw wen hynod yw hon,
Lle tirion ar lan afon,
Lle ucha' ei bri, ar ochr bron."
Y mae enw Aberffraw yn tarddu oddiwrth "afon," a "ffraw;" ystyr y gair ffraw ydyw bywiog, cynhyrfus; ac felly ystyr yr enw yw "afon fywiog." Enw Rhufeinig Aberffraw ydoedd "Gadavia."—Gada, to fall or run down; via—way; dwfr yn rhedeg i lawr (i'r môr, efallai.)
Ni wyddys a fu y Rhufeiniaid yn trigo yma a'i peidio; y tebygolrwydd yw, iddynt fod rywbryd mewn cyfnod pur foreu, onide ni fuasai y lle yn cael ei alw "Gadavia."
Yr ydys wedi rhoddi ystyron y geiriau bod a thref o'r blaen ceir tair o ffermydd yn y plwyf hwn yn dwyn yr enw Bod-Bodfeirig (trigfa Meirig), Bodgedwydd, a Bodwrdin.
Ymddengys fod y lleoedd hyn yn brif breswylfeydd yn mhob trefedigaeth; a thra yr oedd y trefedigaethau hyn yn cynyddu ac yn lluosgi yn fân adranau teuluaidd, yr oeddynt dan orfod i dir-ranu; sef trosglwyddo iddynt eu rhanau neillduol o dir, i'w drin a'i lafurio. Dywed Mr. Rowlands fod y prif drosglwyddwyr yn cael eu galw yn mhob un o'r trefedigaethau, yn 'dir-ranwyr' (land sharers); gelwir hwy "Tyranni" yn Lladin. Rhoddwyd fferm Bodgedwydd, neu Trefod Gedwydd, yn nghantref Aberffraw, gan Llewelyn ap Iorwerth, tywysog Gwynedd, yn anrheg, gyda lleoedd eraill yn Môn, at gynal mynachlog Conwy: a bu y Cwirtau hefyd ar ol hyny yn perthyn i'r un syfydliad. Gwel Mona Antiqua, tudal. 127.