Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

-dwyn gan y Derwyddon yn cael ei gyfrif yn lle eysegredig. Dywed Clem. Alex. in potrept—"Templa, dici fuisse autem Sepulchra, i.e., Sepulchra ipsa vocate fuisse templa"; h.y., fod 'bedd-le' ei hun yn cael ei alw yn deml. Gwel "Brython," cyf. 4., tudal. 202.

Gwisgai y Derwyddon eu bedd-leoedd â llwyni o dderw cysegredig; ymddangosent yn yr addurniadau hyn fel temlau neu fanau cysegredig—y gwydd yn fur, a'r awyr las uwchben yn do! Ymgynullent i'r temlau hyn i addoli, oblegyd barnent fod Duw yn un rhy fawr i drigo mewn temlau o waith dwylaw. Yr oedd yn naturiol i'r rhai hyny, pan eu henillwyd oddiwrth dderwyddiaeth i gofleidio y ffydd Cristionogol, iddynt adeiladu eu heglwysi yn yr un man ag y byddent yn arfer addoli gynt: oblegyd yr oedd ymlyniad a serch ganddynt at y cyfryw fanau yn fwy na rhyw leoedd eraill.

Dywed Mr. Rowlands, yn y Mona Antiqua, fel hyn:—"Our Christian churches have generally been built at, or near those ancient sanctuaries." **** "and probably, people's mind were sooner drawn to make their Christian meetings at their antiently accustomed places of assembling. I say our Christian churches do seem on this account to have their name Llan, from that of Llwyn, with the addition of some christian name that had been signalized in that place, instead of their former heathenish characters and terminations." Page 229.

Y mae yn bur debygol mai mewn lle o'r fath yma yr adeiladwyd yr eglwys uchod; ac iddi oddiwrth hyny gael ei galw yn "Eglwys y Beili," neu y bedd-le. Gan bwy, a pha bryd yr adeiladwyd hi, nis gwyddom; ond, tybir iddi gael ei hadeiladu lawer o amser o flaen eg-