lwys y plwyf. Safai yr hen adeilad yn yr un fan ag y saif yr Ysgol Rad waddoledig, yr hon a adeiladwyd gan Syr Arthur Owen, Bodeon, yn y fl. 1729, ac a roddwyd ganddo, yn ei ewyllys, yn y fl. 1735, i'r dyben o ddysgu plant tlodion y lle. Safai y gladdfa o'r tu cefn i'r adeilad yma—cyrhaeddai i lawr i erddi Bryn-yr-Efail; cafwyd amryw esgyrn dynol yn y lle ar wahanol adegau.
Eglwys y Plwyf.—Adeiladwyd hi oddeutu y fl. 615, gan St, Beuno, mab i Hywgi neu Bugi ap Gwynlliw Filwr, o Perfferen, merch Llewddyn Lluyddog, o Ddinas Eiddin, yn y gogledd; ac felly yr oedd yn gâr agos i Catwg Doeth, ac yn gefnder i Cyndeyrn, seilydd Esgobaeth Llanelwy, â'r hwn hefyd yr oedd efe yn cydoesi. St. Beuno, pan ddaeth gyntaf i Wynedd a ymsefydlodd yn ngodreu mynyddoedd Arfon, mewn lle o'r enw Clynog; ac adeiladodd yno eglwys a mynachlog. Yr oedd y fynachlog yn fath o athrofa i gymwyso dynion ieuainc i'r weinidogaeth. Yr oedd St. Beuno yn ŵr diwyd a gweithgar gydag achos crefydd. Bu yn foddion i grynhoi cynulleidfaoedd cristionogol, ac adeiladodd eglwysi yn Aherffraw, Treftraeth, a lleoedd eraill.
Croes Ladys.—Saif ar y cwr gogleddol o dywyn Aberffraw, wrth ymyl yr afon Ffraw, gyferbyn a Bwlan, yn yr hwn le y ceir olion o hen aneddau hyd heddyw. Ni wyddis beth oedd yr achos i'r lle hwn gael ei alw yn Croes Ladys, os nad rhyw le ydoedd yn y cyfnod pabyddol i gartrefu boneddigion o'r urdd fynachaidd. Yr oedd amryw y pryd hyny yn credu fod ymneillduo oddiwrth y byd am eu hoes i fyw yn y cyfryw sefydliadau, a myned trwy ffurfiau y grefydd babaidd, yn ddigonol aberth i'w rhyddhau oddiwrth eu holl bechodau—a myn eglwysi