Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/81

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhufain i'w deiliaid gredu y pethau hyn eto. Efallai fod yr enw hwn yn tarddu oddiwrth" Wladys," sef Claudia,"—hen enw arferedig ar fenywod gynt.

Y rheswm dros y syniad cyntaf ydyw, fod tebygrwydd yn unigrwydd a neilluedd y lle; ac ystyr yr enw yn tueddu i gadarnhau y syniad mai sefydliad o'r fath fu yma.

Bryn Fendigaid.—Y mae y lle hwn yn sefyll wrth ochr y ffordd sydd yn croesi y Tywyn o Aberffraw i Llangadwaladr. Beth achosodd iddo gael yr enw hwn, nid oes sicrwydd, os nad oedd yn lle cysegredig gan y pabyddion. Mae traddodiad fod amryw ddrwgweithredwyr wedi eu dienyddio ar y bryn hwn yn amser y tywysogion. Cafwyd gweddillion dynol yma wrth glirio y lle i godi ceryg―y rhai oeddynt weddillion y drwg-weithredwyr, fel y tybir.

Henllysoedd.—Ceir pedair o ffermydd yn y plwyf hwn dan yr enwau Henllys; sef Henllys Fawr, Henllys Groes, Henllys Wen, a Phen Henllys. Dywedir mai yr achos i'r lleoedd hyn gael eu galw yn Henllysoedd ydoedd, mai rhyw fath o lysoedd oeddynt yn amser y tywysogion.

Rhydd Dr. W. O. Pugh yn ei Eirlyfr, ddarnodiad o'r cyfryw lysoedd a fodolant y pryd hyny, dyma ydyw:"1. Llys y brenin; 2. Llys breyr; hyny yw, Llys y barwn; 3. Llys Cwmwd; 4. Llys benadur, Llys beunyddiol; hyny yw, y prif neu y Pen llys; 5. Llys dygynull; hyny yw, Llys galw yn nghyd; 6. Llys ail goffa; hyny yw, Llys gohiriad.' Y mae yn debyg mai rhai o'r llysoedd hyn fu yn y lleoedd uchod.

Clafdy.—Y mae y lle hwn oddeutu haner milldir yn y