cyfeiriad gogleddol o bentref Aberffraw. Yr achos i'r lle gael ei alw yn Clafdy oedd, mai yno yr oedd yr ysbytty yn amser y tywysogion.
Bryn Llewelyn.—Saif y bryn hwn oddeutu chwarter milldir yn y cyfeiriad gorllewinol o bentref Aberffraw. Dywedir mai yr achos i'r lle hwn gael ei alw yn Bryn Llywelyn ydoedd, oblegyd mai oddiar y bryn yma y byddai y Tywysog Llywelyn yn arfer codi arwydd i alw ar ben-llywydd y fyddin, yr hwn oedd yn byw y pryd hyny yn Trefeilir; yr hwn le a saif ar dir uchel tua phum' milldir o'r bryn uchod.
Dywed Llyfr Coch Asaph am Aberffraw, y gelwid hi "Vetty," o'r afon sydd yn ei hymyl, lle oedd gynt Lys enwog i Dywysog Gwynedd, a'r afon hono a elwir Ffraw; a gwyr pawb mai Aber cyn y Vrutanet a arwyddoca yn gyffredin gydhyriad a thrawiad avon yn y môr Tegaingl, sef Tanact. Felly" Aberffraw yw aber yr afon Ffraw."
PLWYF LLANBEULAN.
Y mae rhan o'r plwyf hwn yn Nghwmwd Llifon, rhan yn Malltraeth, a rhan yn Twrcelyn. Saif oddeutu chwe' milldir i'r de-orllewin o Langefni; derbyniodd y plwyf yr enw oddiwrth fod yr eglwys wedi ei chysegru i St. Beulan, yn y chweched ganrif—mab Pawl hen o Fanaw.
Ystyr yr enw yw Llan Heddychol. Y fywioliaeth sydd berigloriaeth, mewn cysylltiad sefydlog a churadiaethau Cerchiog, Llanerchmedd, Llechylched, a Taly-llyn, yn archdeoniaeth Môn, a than nawdd Esgob Bangor. Trethid ef yn King's books yn 22p. 3s. 11½c. Cyfartaledd blynyddol y plwyf at gynorthwyo y tlodion