Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/83

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Lleoedd yn Mon. 75 ydyw , 197p. 138. Roddodd un o'r enw David Jones yn ei ewyllys 10p ., a dymunodd i'w llog gael ei ranu rhwng

y ddau berson hynaf ag sydd yn meddu cymeriad da yn y plwyf hwn .

Plwyf LLANGADWALADR ( Eglwysael). Saif y plwyf hwn oddeutu wyth milldir i'r de-orllewin o Langefni. Tardda yr enw oddiwrth fod yr eglwys wedi ei chysegru i St. Cadwaladr Fendigaid, y diwedd. af o frenhinoedd unbenaethol Cymru, yn y fl. 650. Yr oedd Cadwaladr yn fab i Cadwallon Frenin, ap Cadfan ap Iago, ap Beti, ap Rhun , ap Maelgwyn Gwynedd, ap Cas wallon Llaw Hir. Tybia rhai mai y Cadwaladr a dde

chreuodd yr eisteddfodau gyntaf yn mhlith y Cymry ; ond bybia eraill yn wahanol. Yn y trioedd (Myv. Arch. Cyf. ii. tulal. 63) ; nodir ef fel un o'r tribrenin Canon aidd,-— " tri menwedigion teyrnedd,” — am yr amddiffyn .

iad a roddai i Gristionogion a orthrymid gan y Sacson iaid . Ac, hyd yn nod Woodward - pan yn ei ddifrio fel rhyfelwr, am iddo enill iddo ei hun

yr enw

Calqubail

Calquořnmedd ,” (y dyn na fynai ymladd,) å rydd iddo yr anrhydedd hwn fel sant, ei fod yn fwy cyfarwydd ag adeiladu eglwysi a gwaddoli mynachdai, nag ydoedd a rhyfela. Y Cadwaladr hwn a adeiladodd yr Eglwysael

hon, yn yr hon y claddwyd ei daid Bodfan ; ac a elwir hyd heddyw yn Llangadwaladr. Gwel y “ Gwyddon-: iadur," dan y gair Cadwaladr. Yr ystyr yw , “ Llan - y . dewr- i-ryfel." 99

Ar gapen y drws deheuol y mae yr argraff ganlynol yn ddarllenadwy : " Catamanus Rex sapiintissimos op inqtiseiomus Omnium Regum . " Catamanus oedd dad cu ( grandfather ) i Cadwaladr. Dywedir iddo gael ei