Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/84

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gladdu yn Ynys Enlli; ond, rhydd Rowlands ar ddeall i ni i'w weddillion yn y diwedd gael eu rhoddi i'w cadw yama gan Cadwaladr, yr hwn, efallai, a gododd yr eglwys hon yn fuan ar ei fedd ef: ac ar y cyfrif hyn y gwisgwyd hi â rhagorfraint neillduol. Y cyfartaledd blynyddol at gynal tlodion y plwyf ydyw, 177p. 17s. 0c.

PLWYF LLANFEIRION.

Saif y plwyf hwn oddeutu deng milldir i'r de-orllewin o Langefni. Tardda yr enw oddiwrth fod yr eglwys wedi ei chysegru yn y chweched ganrif i Meirion, neu Meirian, ap Owain Danwyn, ap Einion Trth, ap Cunedda Wledig, brawd Siriol Wyn, ac Inion Frenin. Y mae y gair Meirion yn cynwys y meddylddrych o faer (mayor); yr ystyr yw "Llan-y-Maerod."

Yr oedd yr eglwys hon mewn cysylltiad a pherigloriaeth Llangadwaladr; ond nid yw yn bodoli yn awr, oblegyd syrthiodd i adfeiliad llwyr oddeutu y fl. 1775.


PLWYF TRE' GWALCHMAI.

Y mae rhan o'r plwyf hwn yn nghwmwd Llifon, a rhan yn Malltraeth. Saif oddeutu pum' milldir i'r gorllewin o Langefni. Y mae yr eglwys yn sefyll ar ben bryn, oddeutu milldir oddiwrth New Mona Inn, cysylltwyd y fywiolaeth a pherigloriaeth Hen Eglwys, yn niaconiaeth Môn, ac yn esgobaeth Bangor, Cysegrwyd yr eglwys i St. Mordeyrn, neu Morhaiarn; ond nid yw yr enw hwn yn ymddangos yn y "Cambrian Biography." Y mae enw y plwyf wedi ei droi; a rhoddwyd enw Gwalchmai ap Meilir arno oddeutu y ddeuddegfed gannif. Tybir mai yr ystyr yw, "Trigfa un yn llawn ysbryd i ymeangu allan."