Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PLWYF TREFDRAETH.

Mae y plwyf hwn oddeutu wyth milldir i'r de-orllewin o Langefni: arwydda yr enw—"Tref ar lan traeth," (the town or village near the sand).

Cysegrwyd yr eglwys i St. Beuno, oddeutu y chweched ganrif. Y mae y fywioliaeth yn gysylltiedig a Llangwyfan.

PLWYF LLANGRISTIOLUS.

Saif y plwyf hwn oddeutu milldir-a-haner i'r de-orllewin o Langefni. Cafodd yr enw oddiwrth yr eglwys, yr hon a gysegrwyd yn y seithfed ganrif i St. Cristiolus mab Hywel Fychan, ap Hywel Faig, a elwir Hywel Fachlog ap Emyr Llydaw. Yr ystyr yw, "Llan-yr-eneiniedig."

Llangristiolus.—Y fywioliaeth eglwysig sydd guradaeth wastadol mewn cysylltiad â Cerygceinwen, yn archddeoniaeth Môn ac esgobaeth Bangor, a than nawdd yr un Esgob, yr hwn sydd yn hawlio degwm y plwyf. Y mae yma leoedd addoliad gan y Trefnyddion Calfinaidd a Wesleyaidd. Hefyd, ceir yma ysgol blwyfol rad, i ddysgu amryw blant i ddarllen ac ysgrifenu. Cynhelir hi mewn rhan gan ychydig waddoliadau a thanysgrifiadau.

Rhoddodd y Parch. Hugh Jones yn ei ewyllys 100p.; Parch. Dr. Lewis, 50p.; ac amrywiol gymwynaswyr aill ychydig o symiad o arian,—llôg blynyddol pa rai sydd yn 17p. 10s., ac a ddosranir yn mhlith tlodion y plwyf bob Nadolig. Ganwyd yn y plwyf hwn, yn y fl. 1648, Dr. Henry Maurice, o Goleg yr Iesu, yn Rhydychain, a Margaret, Professor of Divinity yn y Brif Ysgol hon. Hebryngodd ei noddwr ef—Syr Le-