Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/86

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oline Jenkins, i Cologne, fel negesydd (ambassador), a neillduoedd ei hun yn fawr fel ysgrifenydd dadleuol (polemical writer). Cyfartaledd blynyddol y plwyf at gynal y tlodion ydyw, 472p. 2s. 0c.

PLWYF LLAN GWYFAN.

Mae'r plwyf hwn yn sefyll oddeutu deuddeg milldir i'r gorllewin o Langefni. Adeiladwyd yr eglwys hon mewn lle anghyfleus ar graig fechan, amgylchynir hi gan y môr ar lanw uchel. Cysegrwyd hí yn y seithfed ganrif i St. Gwyfan Cwyfen, ap Brwynog, ap Corth Cadeir o Gwm Dyfynawc, ap Medrawd, ap Caradawc, Freichfras, a'i fam Camell o Fod Anghared yn Ngholoion. Hefyd, cysegrwyd eglwys Tudweiliog, yn Arfon, a Llangwyfan yn Maelor, iddo. Nis gellir myned i'r eglwys hon ond ar drai: dywedir fod tir o'i hamgylch pan adeiladwyd hi.

Y mae yn argraffedig ar gareg fedd tu fewn i'r eglwys, ei bod yn cael ei galw yn y fl. 1601, yn "Infelina Insula," (Anhapus Ynys); ac felly, o'r hyn lleiaf, y mae yn cael ei galw yn ynys ers yn agos i dri chan' mlynedd. Yr ystyr yw, "Llan y dinystrydd," sef Gwyfyn.

Ceir yn y plwyf hwn luaws o hen weddillion hynod, a rhai o honynt oedd yn bodoli cyn Crist. Un o'r pethau cyntaf y sylwir arno ydyw y Gromlech sydd ar ben Mynydd y Cnwc, yr hon sydd yn gareg fawr wastad lydan, wedi ei gosod ar ben tair careg tua dwy droedfedd o uchder oddiwrth y llawr—y mae yr olwg arni yn debyg i fwrdd ac o'i hamgylch yr oedd cylch o geryg, wedi bod yn mesur ar draws oddeutu 12 llath. O fewn i'r cylch hwn y byddai y Derwyddon gynt yn arfer ymgynull i addoli ac aberthu. Saif yr allor hon mewn lle am-