lwg, sef ar fryn uchel-nid oes ond tua can' llath rhyngddi a'r môr, ac oddeutu dwy filldir o orsaf Ty Croes. Dywedir y byddai yr hen Dderwyddon gynt yn arfer myned yn orymdaith dan ganu, a ffyn gwynion yn eu dwylaw, yn mhen chwe' diwrnod ar ol i'r lleuad newid, tua llwyn o dderw cauadfrig; ac yna dringai yr offeiriad i fyny i'r dderwen, ac, a'i gryman euraidd torai i lawr y llysieyn a elwir "uchelfad:" a byddai un arall, odditanodd yn ei dderbyn ag arffedog wen.
Fe ddygid yno hefyd ddau fustach gwyn, difai, dianaf, ac fe'u haberthid ar uchaf y gromlech uchod. Ystyrid y cyfryw aberth yn swyngyfaredd odidog rhag gwenwyn, haint, ac anffrwythlondeb. Ond yr aberth goreu a dybient hwy a ryngai bodd i'r duwiau oedd drwgweithredwyr, y rhai yr oedd cyfraith y tir wedi eu condemnio i farw—megys llofruddion a lladron.
Ar nos Galan Mai, byddent yn arfer a chyneu tân ar ben pob carnedd trwy yr ynys, lle y byddai un o'r Derwyddon, gyda'r bobl o'r gymydogaeth hono, yn aberthu i'r tadolion dduwiau, er cael rhad a bendith ar gnwd y ddaear. Gwneid yr un peth ar nos Galan Gauaf, er talu diolch wedi cael cnwd y ddaear yn nghyd.
Ogof Arthur.—Saif hon ar yr ocr ddeheuol i fynydd y Cnwc; ac mae hen draddodiad fod Arthur wedi bod yn llechu yma, pan oedd mewn rhyfel â'r Gwyddelod. Gwel "Brython," tudal. 138.
Hen Eglwys (the Old Church.)—Y mae yr eglwys hon yn nghwmwd Malltraeth; telir i beriglor y lle hwn mewn undeb a chapel Tref Gwalchmai; ei noddwr ydyw Esgob Bangor. Cysegrwyd hi i St. Llwydian: nid yw Dr. W. G. Pughe yn ei nodi yn ei gyfres.