wastadol ynglyn â phersonoliaeth Llanbeulan, yn archddeoniaeth Môn ac esgobaeth Bangor. Y mae yma addoldai gan y Trefnyddion Calfinaidd, y Wesleyaid, a'r Annibynwyr. Ceir yma luaws o roddion elusenol wedi eu rhoddi yn gymun-roddion i dlodion y plwyf, gan amrywiol gymwynaswyr. Ond y mae llawer ohonynt ar goll. Cyfartaledd blynyddol trethi y plwyf at gynal tlodion ydyw, 167p. 118. 0c.
PLWYF CEIRCHIOG (Bettws-y-Grog.)
Saif y plwyf yma oddeutu milldir o Lanbeulan, cysegrwyd yr eglwys i'r Ffordd Sanctaidd (holy road), ac, ar y gyfrif hyn yr enwyd hi yn Bettws-y-Grog, neu Bettws y Groes Sanctaidd. Tybir fod yr enw wedi tarddu oddiwrth eglwys Rhufain yn cadw gwyl, dan yr enw "gwyl y grog": fel coffadwriaeth am fod yr Ymerawdwr Heraclius wedi ad-enill y "wir groes," fel ei gelwir, oddiar y Bereiaid; ac wedi myned yn ei ol i Galfaria. Yn-ol y chwedlau mynachaidd, gwisgodd yr ymerawdwr ei freiniol wisgoedd, a gwysiodd ei holl bendefigion a thywysogion ei lys i'w ganlyn ar ei bererindod i Jerusalem: ond, yn gwbl ofer-canys ni allai symud y groes, ac ni agorai pyrth y ddinas iddo; am hyny efe a ofynodd yr achos; a llais o'r nef a'i hatebodd, "gan ddywedyd i Grist fyned i Jerusalem, yn eistedd ar asyn yn ostyngedig, ac yn addfwyn," Yna disgynodd yr ymerawdwr, ac a aeth yn draed-noeth i mewn i'r ddinas, a'r groes ar ei ysgwyddau. Eraill a dybiant i'r wyl hon gael ei chadw gyntaf yn Jerusalem, yn y flwyddyn 325, pan ddaeth Elen Lueddog, mam Cystenyn Fawr, o hyd i'r "wir groes," yn gladdedig arloes Galfariafel y tybid y pryd hyny.