Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/91

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PLWYF LLANDRYGARN.

Mae y plwyf hwn yn gorwedd oddeutu tair milldir i'r de-orllewin o Lanerchymedd: cysegrwyd yr eglwys i St. Trygarn. Y mae y gair Trygarn yn tarddu o ddau wreiddin, try, (to lurn-to go to the other side); a carn, o'r un ystyr a Carnedd—(a heap of stones.)

Gwyndy.'—Tardda yr enw hwn oddiwrth Tŷ Gwyn (White House): bu cysegrfa eglwysig yn y fan lle saif y Gwyndŷ yn bresenol. Yma y byddai y rhïanod glan yn rhoddi eu hunain yn hollol at wasanaeth yr Arglwydd, ac yn ymwadu yn drwyadl a phob mwyniant cysylltiedig a'r bywyd presenol. Y mae amryw bethau perthynol i'r lle hwn i'w gweled, ac yn cael eu cadw gyda gofal er coffadwriaeth am yr hen sefydliad. Bu y lle hwn yn westy am flynyddau, hyd nes y codwyd Pont Menai, &c.

Rhydcaradog a Rhyd-y-Saint.—Y mae cysylltiad neillduol rhwng y ddau le yma a'u gilydd. Yn Rhyd-y-Saint yr arferai yr hen fynachod wersyllu; ac yno yr ymgynallid ar wahanol adegau o'r flwyddyn i ymdrin â materion eglwysig a chrefyddol. Pan fyddai y rhyw deg yn cyflwyno eu hunain i'r Griandŷ, deuant ar eu taith i'r Rhyd, a'u ceraint a'u cyfeillion i'w canlyn. Treiliant ychydig amser yma i ymddiddan a chynghori eu gilydd; ac yna cychwynid gyda hwy, yn araf, dan ymgomnio, tua'r gysegrfa, hyd nes y deuent at Rhydcaradog. Brwd a chymysglyd fyddai teimlad eu mynwesau pan gyrhaeddent y Rhyd hwnw, oherwydd ni oddefid i gâr na chyfaill fyned gam yn mhellach, ac felly ffarwelient yn nghanol cri a dagrau; a dywedir mai gwir ystyr y gair ydyw, "Rhyd Criadog." Codwyd maen mawr dros yr afon sydd yn rhedeg drwy y lle