Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/92

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwn, yn amser John Bodychen, a Rhys Bold Treddol. Dywedir fod oddeutu dau gant yn ciniawa ar yr achlysur yn Bodychen.

Pentre Buan.—Yn amser y mynych ymosodiadau fu ar blant Gomer, bu y fan yma yn lle pwysig―oblegyd aml y cyrchid i'r lle gan finteioedd gwrthryfelgar, am mai yma y cedwid y bŵaau saethau. Y mae careg gerllaw yr eglwys, ar ba un y dywedir y byddent yn arfer minio blaenau eu saethau—y mae wedi ei rhychu yn ddofn; ac, yn ol bob tebyg, bu traul fawr arni. Y mae amryw bethau yn aros ac i'w gweled hyd heddyw yn y pentref hwn; megys "Tarian y Saethau," &c. Dywedir fod ogof yn rhywle gerllaw y fan hon, yn mha un yr arferid ymguddio—ond nid oes un argoel o honi yn awr i'w gweled.

Cae'r Coll.—Dywedir i'r lle hwn dderbyn yr enw yna fel y canlyn:—Yr oedd unwaith ddwy fyddin yn cydgyfarfod—un oddiwrth Llanerchymedd, a'r llall oddi Cefnithgraen. Daethant i gyfarfyddiad sydyn, oblegyd fod bryn rhyngddynt; cyrhaeddodd un fyddin ben y bryn yn cyntaf, a chafodd y llall ei gyru yn ol, a chollodd y frwydr; ac yna galwyd yr ucheldir yn "Brynbyddin," a'r maes yr enciliwyd iddo yn "Gaer goll"—y rhai sydd yn enwau arnynt hyd heddyw.

Tyddyn Bleddyn.—Gelwid ef oddiwrth Bleddyn ap Adda; a thybir fod lle arall, yn mhlwyf Llanwenllwyfo, wedi ei enwi oddiwrth yr un person, sef " Nant-y-Bleddyn."

PLWYF LLECHGYNFARWYDD.

Y mae y plwyf hwn yn sefyll oddeutu tair milldir i'r de-orllewin o Lanerchymedd. Y mae gwahanol farnau