yn Nhywyn. Y mae yr eglwys bresenol tua milldir-ahaner i'r gogledd o'r hen eglwys: ac yr oedd yn adeiladaeth o'r cyfnod Elizabethaidd, cyn ei hail-adeiladu yn ddiweddar. Saif hon yn nghanol y tir llafur yn y plwyf, ac felly mae yn fwy manteisiol i'r trigolion: mae yma hefyd ysgol berthynol i'r eglwys, yr hon a gynhwysa 100 o blant. Yr oedd yma hyd yn ddiweddar gymunroddion blynyddol at ysgol plant tlodion—30s. oddiwrth y Deon Jones, Bangor: a 10s. bob blwyddyn yn dyfod o Bresaddfed, i'w rhanu rhwng y ddwy hen ferch hynaf yn y plwyf, heb fod yn derbyn cynorthwy plwyfol. Cyfartaledd blynyddol trethi y plwyf at gynorthwyo y tlodion ydyw, 71p. 13s8. Ceir yma le addoliad hefyd gan y Trefnyddion Calfinaidd.
Trwy gŵr y plwyf hwn yr oedd y brif dramwyfa o'r Iwerddon i Loegr, cyn gwneud yr hen lôn bost, fel ei gelwir; ac, y mae y ffordd yma yn dangos yn eglur ei bod wedi bod unwaith yn ffordd Rufeinig; gwelir gwaelodion yr hen ffordd hon rhwng ffermydd Bryn Prudd-der, a Glan y Gors; a rhwng Allwen Ddu, a'r Allwen Goch. Yr oedd i'r gogledd o'r ffordd hon, tua 200 llath o hẹn gastell, neu amddiffynfa a elwir Caer Elen; tybir i'r enw yma darddu oddiwrth Elen, mam Cystenyn Fawr. Yr ystyr yw—Amddiffynfa gwbl ffrwythlawn. Dywedir fod hon wedi gwneud amryw ffyrdd yn y Dywysogaeth. Y mae y gaer yma yn mhlwyf Bodedern, ar y bryn uchaf yn y gym'dogaeth. Cafwyd amryw feddau Bryteinig yma. Y mae fferm arall yn sefyll ar ochr orllewinol y plwyf, rhwng llynau Llewelyn a Dinan; gelwid hi yn Llyn Llywelyn, oddiwrth ynys fechan sydd yn agos yn cael ei galw yn Ynys Llewelyn. Dywed traddodiad mai palas yn perthyn i Llewelyn ydoedd: ond y tebygolrwydd cryfaf yw, mai tŷ at hela ydoedd, gan fod lleoedd yn