Tudalen:Hanes bywyd Thomas Edwards bardd gynt o'r-Nant.pdf/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond ar un tro, wrth yru y wedd gydâ'r clawdd, fe rwygodd draenen neu fieren fy labet oddiwrth fy nghoat, fe'm tarawodd fy nhad, gan fy rhegi, ac edliw mai gwell oedd gennyf drin fy mhapurau c——l na thorri'r mieri oedd yn rhwygo fy nillad ac yn tynnu gwlân y defaid. Minnau tan ysnwffian crio ac yn addunedu os fi â'i byth i'r ty y llosgwn i yr holl bapurau. Ac yn fy ystyfnigrwydd y noswaith honno mi losgais ryw becyn o ysgrifeniadau, o'r fath ag oeddynt hwy.

Yr oeddwn erbyn hyn cylch deg oed; ac er llosgi y llyfrau, yr oedd yr hen natur yn llosgi ffordd arall am gael canlyn ymlaen ar drin papurau; mi aethum yn gyfaill a hen Gowper gerllaw Nantglyn, yr hwn oedd yn fawr ei athrylith am ysgrifenu gwaith prydyddion, sef cerddi a charolau, &c.

Ac ar fyr amser wedi hyn, mi aethum yn gyfaill âg un arall, o'r un fath natur am hel llyfrau, sef hên ddyn oedd yn Mhentre'r Foelas, yn darllen yn y capel y Suliau ac yn clocsio amserau eraill. Cefais fenthyg hên lyfrau gan hwnnw lawer gwaith. A thrwy bob peth a'u gilydd, mi ddysgais ysgrifenu yn lled dda yn y cyffredin o'r gymydogaeth hono.

Yn ganlynol, mi aethum yn gyfaill ag un arall oedd yn brydydd, heb fedru darllain nag ysgrifenu; ac yr oedd ef yn un naturiol iawn o ran llithrigrwydd ei awen am y mesurau tri neu bedwar bar. Efe a gyfenwyd Twm Tai yn Rhos. Fe wnaeth imi englyn, i'w roi mewn llyfyr oedd gennyf o gasgliad cerddi:—

Twm Ifan, wiwlan alwad—yn bwer
A biau'r darlleniad;
Heliai gerdd i lenwi'r wlâd.
Dew gywaeth rhwng dau gauad.