Tudalen:Hanes bywyd Thomas Edwards bardd gynt o'r-Nant.pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Braidd na ddigalonaswm y pryd hynny rhag prydyddu rhagor.

Mi aethum gyda llanciau eraill o gylch Nantglyn i chwareu drachefn, pan oeddwn gylch 13 oed. Yr oeddwn erbyn hyn, os yr un, yn ddoethach na hwy oblegid y mater. Fe ddaeth fy natur yn rhy gref i'w gorchuddio; yr oedd hwn a'r llall yn dechreu taenu fy mod yn brydydd, a nhad a mam yn ysgyrnygu yn arw rhag fy mod yn fy ngwneyd fy hun yn brixiwn. Ond pe buaswn fwy gwaradwydd neu bricsiwn, i'm fy hun a'm cenedl, hynny fu.

Mi wnaethum interlude cyn bod yn 14 oed yn lân i ben; a phan glybu nhad a mam nid oedd i mi ddim heddwch i'w gael; ond mi beidiais a'i llosgi; mi a'i rhoddais i Hugh o Langwm, prydydd enwog yr amser hwno; yntau a aeth hyd yn Llandyrnog, ac a'i gwerthodd am chweugain i'r llanciau hynny, pa rai a'i chwareuasant yr haf canlynol. Ond ni chefais i ddim am fy llafur, oddi eithr llymaid o gwrw gan y chwareuyddion pan gwrddwn â hwynt. Yr oedd hyn, i ganlyn pethau eraill, yn anogaeth i'm dal yn ol rhag prydyddu, pe buasai ddim yn tycio.[1]

Ond yn ganlynol, fel yr oedd fy natur i fal

  1. Mi a wnaethum ddwy interlude, un i bobl Llanbedr, Dyffryn Clwyd, a'r llall i lanciau Llanarmon yn lal, un ar destyn "Gwahanglwyf Naaman." a'r llall ynghylch "Hypocrisia." megys ail wneuthuriad o waith Richard Parry o'r Ddiserth. Pan oeddwn yn ieuange, yr oedd cymaint o gynddaredd, neu wylltineb ynof, am brydyddu, mi a ganwn braidd i bob peth a welwn; a thrugaredd fu i mi na buasai rhai yn fy lladd, neu yn fy llabyddio am fy nhafod ddrwg. Llawer a beryglodd fy rhieni arnaf, mai hynny a fyddai, oni chymerwn ofal rhag dilyn y ffordd honno. Rhyw dro yr oeddwn gyda chyfeillion drwg fel fi fy hun, mi a ddigwyddais daflu gair penrhydd, lle yr oedd tri neu bedwar o garwyr, oedd yn arfer o gadw cwmpeini merch ieuanc o'm cymydogaeth, oedd yn byw mewn lle a elwid Ty Celyn. Minnau a ddywedais mewn dysgwrs mai c——d y Ty Celyn oeddynt hwy. Fe glybu'r ferch, ac a gymerodd yn angharedig oblegid fy ngeiriau drwg; ac yr oedd iddi frawd o ymladdwr creulawn. Fe gymerodd hwnnw blaid neu bart ei chwaer i'm ceryddu; ac ryw nos Sul fe a'm gwaetiodd yn dyfod o Nantglyn ac yr oedd ffordd pob un i ddyfod gyda'n gilydd hyd y llwybr adref; ac ef oedd a'i fwriad ganddo am fy nghuro, ac yr oedd ganddo ddarn o bren derwen taclus at yr achos; ac ar ol ymdderu peth hyd y ffordd, fe daflodd y pren i lawr, ac a dynnod yn noeth lymun, minnau a dynnais fy nghwat a'm cadach, ac a gymerais ei bren ef yn fy llaw, yntau a aeth i'r gwrych ac a gymerodd bawl, a churo wnaethom yn ffyrnig iawn. Erbyn euro ennyd, yr oedd y prennau yn ddelft, ac yn lled. fyrion. Yr oeddem weithiau ar lawr, a dal i guro er hynny; ond fe ddaeth rhagor o edrychwyr i feddwl ein rhwystro; ac ni fynnai ef mo'i rwystro. Felly ni a gytunasom i dynnu polion ffres a churo a fu, hyd nes oni aeth i fethu sefyll: mae y creithiau arno ef a minnau hyd heddyw. Ond yn y diwedd, yn llawn o waed colledig, fe ddarfu i'w gymydogion ei gynllwyn ef adref, a sal iawn a fu, a rhai yn barnu y byddai farw; a thrannoeth fe ddaeth alarwm o'i blegid; minnau a ddiengais dros y mynydd i Bentre'r Foelas, at vr hen Sion Dafydd, i drin hen lyfrau. Ac wrth ddarllen rhyw bethau ar gist wrth y ffenestr, yr oeddwn yn arogli drewi mawr; meddwl weithiau fod gan yr hen wr ryw ffieidd-dra tu cefn i'r gist; ond erbyn chwilio'r mater, fy mraich i oedd yn drewi, ar ol cael ei bydru wrth ymladd. Oddivno, ar ol i ryw wraig ymgeleddu peth arnaf, mi a fum yn ffoadur bythefnos neu ragor, ym mhlwyf Bryneglwys yn fal, mewn lle a elwir Pennau'r Banciau, weithiau yn dyrnu, weithiau yn dal aradr a chloddio, a phob peth angenrheidiol, as yn cymeryd gofal o hyd rhag i neb wybod fy helynt. Ond o'r diwedd mi aethum adref; yr oedd yntau yn dechreu codi allan. Fe fynnwyd peth cyfraith arnaf, ond nid llawer. Ac yn ganlynol i'r cythrwfwl hwn, a dymuniad fy mam, mi a beidiais ag ymladd ar ol hynny, rhag digwydd ini beth a fyddai gwaeth.