Tudalen:Hanes bywyd Thomas Edwards bardd gynt o'r-Nant.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn anorchfygol, mi a wnaethum Interlude drachefn, ar y testyn "Jacob yn dwyn bendith Esau:" a honno a actiwyd gan lanciau Nantglyn a minnau.

Ac yn ol hynny gwnaethum Interlude "Jane Shore." Hono a actiwyd yn gyntaf gan lanciau Llannefydd; ac yn ganlynol gan lanciau Llanbedr Dyffryn Clwyd.

Ac yn ol hynny, pan oeddwn gylch 20 oed, gwnaethum interliwd ynghylch "Cain ac Abel," i'w hactio rhwng pedwar dyn; ac mi a fum