Tudalen:Hanes bywyd Thomas Edwards bardd gynt o'r-Nant.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

brynodd cyfaill y waggon, ac fe'm trystiodd am dani; ond fe werthwyd y cwbl oedd yn y tŷ; nid oedd gennyf un gwely i orwedd, ond gwellt, a rhyw faint o ddillad a brynnodd un o'r cymydogion, a'u benthyca i ni am dro. Yna nid oedd gennyf ddim i'w wneyd, ond cymeryd rhyw ddynan, ag oedd ganddo dri cheffyl, yn rhannog, ei dri ef a'r ddau oedd genyf finnau, a rhoi gwedd ar gerdded. ac efe yn dweyd mai efe oedd bia honno, ond ei fod ef yn talu i mi am help i lwytho, Felly cario yr oeddym i Dreffynnon a manoedd eraill; ac yr oedd yno walch o ŵr boneddig a elwid Mostyn o Galcoed, ac yr oeddwn yn ddyledus i hwnnw am beth rhent am borfa; ond nid oedd ef yn medru cael craff ar y wedd, gan ei bod yn enw un arall.

O'r diwedd mi a drewais wrth finars o swydd Fflint, a hwy a'm denasant i wneyd Interlude, minnau a wnaethum ar "Weledigaeth Cwrs y Byd" yn nechreu y Bardd Cwsg; a chwareu buom, bedwar ohonom; ac wrth chwareu, fe'm daliwyd yn y Brickill, tros Mostyn Calcoed, i fyned i'r jail. Minnau a roddais feichnafon tan y sesiwn; a rhwng hynny oedd y wedd yn ei ennill, a minnau wrth chwareu, mi a delais yr arian, gyda llawer o gost.

A phan ddaeth hi yn ddiwedd blwyddyn, mi a gedwais y waggon, ac un ceffyl, ac mi roddais heibio chwareu gyda rhai hynny, ac a wnaethum Interlude i'w hactio rhwng dau, ac mi a ganlynais honno dros flwyddyn, ymhell ac yn agos, ac enillais lawer o arian. Ei thestyn oedd, "Ynghylch Cyfoeth a Thlodi."

Ac yn ol hynny, mi a wnaethum un arall rhyngom ein dau, "Am Dri Chydymaith Dyn,