Tudalen:Hanes bywyd Thomas Edwards bardd gynt o'r-Nant.pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ef y Byd, a Natur, a Chydwybod," ac a'i dilynasom mor ddyfal a'r llall.

Ac wedi blino ar honno, mi a wnaethum un ar destun, "Y Brenin, a'r Ustus, a'r Esgob, a'r Hwsmon," ac ni a ganlynasom lawer ar honno.

Mi a fyddwn yn arfer, pan ym min troi heibio chwareu, mi a'i hargraffwn, ac a'i gwerthwn; a gwerth hwylus oedd arnynt, a thâl da oddi wrthynt.

Ac yn ol blino yn canlyn chwareu, mi a godais wedd, ac a aethum i gario o Gaer i dref Ddinbych, i siopwyr ac eraill. Yr oeddwn erbyn hyn yn lled gryno, gwedi cael pethau yn tŷ, a gwêdd ganolig i gario. Ac felly dal at gario y bum hyd onid aeth y wagen sengl yn wagen ddwbl, a chwech o geffylau da yn ystlysau eu gilydd; phedwar o rai gweddol wrth y waggon gul. Fe dynnai y chwech bum tunell o bwysau; a'r waggon arall o gylch dwy dunell a hanner. Mi a fum felly yn dal i gario o Gaer cylch 12 mlynedd, nes y daeth rhyw genedl wenwynig o'r dref i ymryson ac i ostwng ar y cyflog, ac i wneyd pob cenfigen a ellynt.

Yna mi a aethum yn lled ddifater am Gaer, ac a dröais i gario coed. Mi a fum yn cario am hanner blwyddyn o Goed y Fron, sef coed Rug, oddiwrth Gorwen i Ruddlan, ac ambell waith i Gaer; ond yr oeddwn y pryd hynny, drwy pob peth, o gylch gwerth 300p o'm heiddo fy hun. Ond fel yr oeddwn yn ffyrnig am wneyd fy ngoreu, mi a ymroddais i gario coed o lawer o fannau pan aeth cario Caer yn waeth.

Mi a fum yn cario coed mawr o Bathafarn, a Pharc Pysgodlyn, ac Euarth, a'r Plas Uchaf Llanfair, ac o'r Gyffylliog, ac o Fachymbyd