Tudalen:Hanes bywyd Thomas Edwards bardd gynt o'r-Nant.pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bach, a'r Fronheulog, a thrachefn o'r Waenynog a'r Segrwyd Uchaf, ac o'r Ty'n y Pwll, ac amryw fannoedd eraill.

Ac ar ryw dro pan oeddwn, fel y brenin Dafydd ar nen ei dŷ, yn ysgafala gartref, fe ddaeth ewythr i mi frawd fy nhad, a'm tad bedydd innau, i'r dref, gwedi ei ddal i fyned i Ruthyn am 30p o ddyled, ac yr oedd ef yn ddigon abl i dalu ond cael peth amser; felly fe yrwyd am danaf i fyned yn feichiau iddo ympirio y sesiwn. Felly yr aethum, a phan ddaeth yr amser mi a aethum ag ef at ei wr o gyfraith, yr hwn a'i daliasai, i Wrexham, a hwnnw a'i cynghorodd ef a minnau dalu iddo fel y gallai, y cymerai ef nhwy felly, yn swm bychan, a hynny a fu. Ond beth bynnag, yr hen wr oedd yn oedi talu, a'r cyfreithiwr yn rhoi cost bob tro hyd nes yr aeth yr arian yn fwy, ac o'r diwedd fe dorrodd fy ewythr i fyny: ac yna fe ddaeth ataf finnau dri o failiaid, minnau yn lled gyfrwysddrwg yn fy meddwl a ddywedais yn deg wrthynt, ac a'u meddwais, a'r un oedd a'r writ ganddo a ddaeth i'm gwely i at y gwas i gysgu; a phan gysgodd mi a hwyliais forwyn oedd gennyf i nol ei bocket book ef i gael i mi'r writ, ac felly fu. Ac ar fyrr mi a ofynnais i'r bailiaid pa le yr oedd eu pwer i aros yno; ac yna hwythau, gan edrych ar eu gilydd, a'r naill yn rhegi'r llall; a chwedi y cwbl, nid oedd ond troi cefnau y tro hwnnw. Minnau aethum at yr hwn yr oedd fy ewythr yn ddyledus, ac a gytunais i'm hewythr a minnau dalu yr arian iddo ef fel y gallem; a hynny a fu. A'r cyfreithiwr a yrrodd gennad bwrpasol o hyd nos at y gofynnwr drachefn, yntau a roddes ei law wrth ryw bapur i'r atwrnai gyda'r gennad yn ol. Yna