at wr o'r Eglwysfach oedd gwedi prynu coed Abermarlais yn swydd Gaerfyrddin. Yr oedd ym Meifod, (y plwyf lle yr oeddwn), Exciseman o'r wlad honno, cefais ddirection o'r ffordd, ac ymaith a mi. Cychwynais ddydd Sadwrn, ac yno nos Sul, heb son wrth neb o'm teulu ond wrth fy merch hynaf.
Ac ar ol lled gytuno am waith cario, am 6ch. y droedfedd, o'r coed i Gaerfyrddin, daethum adre gynta gellais, ac a heliais y waggon ddwbl a'r ceffylau, wyth ohonynt, ac a wnaethym y goreu o'r ffordd. Ac mi adewais y waggon fach yno a'r teulu, dim ond y llanc a minnau aeth pryd hynny; yr oedd yn rhy hwyr gennyf gychwyn o sir Drefaldwyn. Ac yn ol cyrraedd yno, mi a gefais le da i'r ceffylau, a gadewais y llanc a hwythau yno, ac a ddaethum i nol fy ngwraig a'm tair geneth. Pacio rhyw betheuach i'w rhoi gyda charrier i Fachynlleth; yr oedd gennyf lonaid cŵd llestraid o lyfrau, a dillad hefyd mewn sachau. Ar ol i mi a'r merched ddyfod i ffordd, ni welais fyth ddim o'r eiddo, y wagon, na'r dillad, na'r llyfrau. Gyda llawer o flinder a thrymder calonnau, ni a ddaethum oll i ben ein siwrneu yn lled iach. Ni a fuom am ryw hyd heb gael lle i settlo i fyw heblaw ar aelwyd eraill; ond trwy ryw ragluniaeth fe ddarfu ein meistr, y timber merchant, gymeryd gate turnpike am 108p yn y flwyddyn o rent; y ni i gael arian y gate at ein bywoliaeth, a setlo y rhent wrth gario. Buom felly yn dechreu bwrw ein henflew yn rhyfedd, a minnau yn cario coed mawr iawn, na welwyd ar olwynion yn y wlad honno mo'u cyffelyb, nac yn odid wlad arall, am a