Tudalen:Hanes bywyd Thomas Edwards bardd gynt o'r-Nant.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

glywais i. Llawer o goed a lwythais, ac aethum a hwy i ben eu siwrneu; rhai yn 100 troedfedd, a 150, a 200, yn un darnau; a'r mwyaf, oeddynt yn ei alw brenin-bren, oedd yn 244 troedfedd. Yr oedd gennyf dri phar o olwynion yn cario hwnnw; y wagen oedd a dau fraich cryfion ar ei hyd, a rowel ar y canol, a'r trydydd par o'r tu ol yn cŷd-gario, fel pe buasai ond pedair olwyn. Ond wrth ddyfod i'r coed i lwytho y pren hwnnw fe gododd pobl y wlad, o'r llannau a'r ffyrdd, fel pe buaswn yn y wlad yma yn chwareu Interlude, a llawer o'r bobl gyfarwydd yn dywedyd na lwythwn byth mono, na ddaliai'r taclau ddim i godi y fath bwysau. Yr oedd ef 45 troedfedd o hyd, a chwedi ei ysgwario yn lân: minnau a godais y crane uwchben ei flaen ef, ac fe'i cododd y ceffylau ef yn esmwyth; ac yna rhedais y par olaf mor belled ag y medrwn dano; ac yna symud y crane at ei ben bôn, a deisif ar y segurwyr oedd yno neidio ar y gynffon; ac yna codi'r bôn a'i lwytho ar y wagan; ac yna gyrru ymlaen ac ail setlo yr olwynion olaf; yna myned i'r ffordd ac i Gaerfyrddin, heb gymaint a thorri link tres. Ond wedi myned i'r dref, at Borth Heol y Brenin, a'r ceffylau yn nwbl, ac yn llonaid y porth, a thalcen y pren yn taro yn yr arch; dyna luoedd o bobl y farchnad yn dechreu ymgasglu o'm cwmpas, ac yn tyngu nad awn byth ffordd honno; minnau, gwedi synnu peth, a gefais gan rai oedd yno, trwy addo yfed atynt, fy helpu i facio yr olwynion yn eu holau; ac felly trwy fod amryw yn taro llaw ar y peth, mi a'i cefais hi yn ol; a chwedi hynny ni aethom, dri neu bedwar, i Yard yr Ivy Bush, tŷ tafarn, lle yr oedd crystiau coed