Tudalen:Hanes bywyd Thomas Edwards bardd gynt o'r-Nant.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bobwyd ffwrnaid fawr o fara, ac a brynwyd rhyw lawer o gaws ac ymenyn, a chig i'r bobl oreu, ac yr oedd y llong gwedi rhoi pedair olwyn tani fal pedair o fothau troliau mawr, a'u cylchu â haiarn, ac echelau mawr yn y bowliau hyny, a chwedi eu hiro erbyn y dydd cysegredig. Minnau oeddwn yn dygwydd bod yn llwytho yn y coed y diwrnod hwnnw; ac ar ol gyru y wêdd yn y blaen, mi arosais yno i weled yr helynt; a helynt fawr a fu: bwyta yr holl fwyd, yfed yr holl ddiod, a thynu y llong o gylch pedwar rhwd o'i lle, a'i gollwng i ffos clawdd ddofn. Erbyn hyny, yr oedd hi agos yn nôs, ac ymaith a'r gynulleidfa: rhaf oeddynt. yn o feddwon, ac amryw o'r lleill ag eisiau bwyd, a llawer o chwerthin oedd y'mhlith y dorf. A'r merchant a dorodd i gwyno, o ran er ffolineb yn gwneyd y fath beth, ac yn dywedyd wrthyf y byddai raid ei thynu oddiwrth ei gilydd cyn byth y caid hi o'r clawdd.

Minnau a ddywedais y medrwn fyned â hi i'r afon, ond cael tri neu bedwar o ddynion i'm halpu; yntau a ddywedodd y cawn y peth a fynwn, os medrwn fyned a'r llong i'r afon, A deisyf yr oedd armaf am, ddyfod y boreu dranoeth, os gallwn; minnau a ddaethum, a'r llange a phedwar o'r ceffylau; a mi ddaethum o flaen y wedd, ac a roddais y dynion ar waith, i dori twll mewn bên wal fawr, oedd megys o flaen y llong; ac yno rhoi darn o bren ar draws y twll y tu pellaf i roi chain i fachu y tacl, sef rhaff a blociau, a bachu y pen arall wrth y llong, a rhoi y ceffylau. wrth y rhaff i dynu. Felly hi ddaath o'r clawdd ya lled hwylus ; ac yno bachu drachefn wrth bren yn tyfu, a dyfod y'mlaen felly; ond pan ddoed i dir meddal, yr