Tudalen:Hanes bywyd Thomas Edwards bardd gynt o'r-Nant.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd rhaid rhoi plangciau tan yr olwynion o ran y pwysau, ac ar ol tynu i ben blaen y planciau, symyd y rhai olaf y'mlaen, ac felly o hyd; alle na byddai cyfle i fachu wrth bren yn tyfu, byddai raid rhoi post yn llawr, i fachu; ac o bost i bared hi aeth i'r afon, mewn ychydig ddyddiau; ac addaw i minnau gyflog da, ond ni chefais i yn y diwedd un ddimai byth, ond addaw, a'm canmawl: rhai pobl a fyddai yn dyfod i edrych arnom ac yn rhoi peth arian i ni geisio cwrw, a dyna y cwbl. A phan ddarfu hyny cario fy ngorau a wnaethym i.

Pan aeth coed Abermarlais yn wag, mi aethum i Daliaris, ac i Allt y Cadno, a Chil y Cwm, a Myddfai, Llangenyrch, a Gwal yr Hwch, a Llanedi.

Mi a fu'm yn cario i forge Llandyfan, ac i Bont ar Ddulas, ac i Abertawe, ac o Aberafon i Gastell Nedd, ac yn cario o le a elwir y Ffrwd, i Gaerfyrddin, ac o Wenpa i Gaerfyrddin; ac o amryw leoedd eraill nad wyf ddim yn cofio.

Fe fu farw i mi yn Ninbych gwmpas 50 o geffylau, ac yn swydd Gaerfyrddin 27. Ac ar ol yr holl helyntion, fe aeth y merchant coed' yn ol llaw yn y byd, ac fe droes yn bur gnafus ac anonest yn ei gyfrif ac yn ei dâl. Fe aeth oddi arnaf ar unwaith wrth geisio settlo, 54p. 6s. fe fu lawer o'm ffrindiau yn y wlad hono yn ceisio ganddo beidio a gweud cam âg un oedd wedi dyfod o'r un wlad ag yntau, ac wedi cario coed na chariasai neb oedd yn y wlad hono mo'nynt. Gwedi yr holl gythryfwl nid oedd genyf ond wyło weithiau, a chreuloni waith arall, a dywedyd wrtho ef un tro, nad oedd dim help, y byddwn i yn Dwm o'r Nant