Tudalen:Hanes bywyd Thomas Edwards bardd gynt o'r-Nant.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn y North, pryd na byddai ef ddim yn Feistr Lewis, nag yne nag yma; ac felly fu, Mi a gefais yr anrhydedd o'i weled ef ar geffyl yn Ninbych gyda'r bailiaid, yn myned i garchar Rhuthyn, ac a ddywedais â llef uchel, mai dyna yr olwg oreu a ddymunwn weled arno, oni b'ai i mi gael yr olwg arno yn myned o'r Jail i'r Gollegfa, lle y byddid yn crogi lladron.

Ond yn mhen ennyd fe ga'dd ef fyned yn fankrupt, i safio talu i neb; ac y mae fe yn awr, am wn i, mewn gwlad nad oes gorphen talu byth. A rhyfedd mae pob peth yn tynu i'w elfen: yr wyf yn cofio i mi settlo gyd ag ef yn Llandeilo; ac yr oedd ganddo orders i ddal chweugain oedd arnaf yn ferry 'Tal y Cafn pan fuaswn yn myned âg organ i Fangor, a minau a settlais âg ef am hwnw; mae y cyfrif i'w weled etto yn y llyfr lle yr oeddym yn cyfrif; ni thalodd ef ddim; fe fuwyd yn fy ngofyn yn mhen saith mlynedd, minnau a ddangosais y llyfr, fy mod wedi settle iddo ef: a llawer o'r cyffelyb bethau a wnaeth ef â mi ac eraill. Ond ni waeth tewi-adref y daethum i o Ddeheubarth, heb na cheffyl na waggon; ac nid oedd dim genyf i droi atto, oddeithr gwneud Iuterlude: a hyny a wnaethum. Yn gyntaf, mi aethum i Aberhonddu, ac a breintiais Interlute "Y Pedwar Penaeth? sef Brenin, Ustus, Esgob, a Hwsmon," a dyfod at fy hen bartner i chwareu hono, a gwerthu y llyfrau.

Yr oeddwn gyda hyny yn cynull subscribers at argraffu llyfr caniadau: sef, "Gardd o Gerddi." Fe argraffwyd hwnw yn Nhrefecca; mi a delais am hyny 52p. ac a ymadewais à dwy fil o lyfrau.