Tudalen:Hanes bywyd Thomas Edwards bardd gynt o'r-Nant.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac yn ganlynol, mi a wnaethum Interlude "Pleser a Gofid, ac a chwareusom hono.

Trachefn gwnaethum Interlude yn nghylch. "Tri Chryfion Byd, sef 'Tylodi, Cariad, ac Angeu

Canlyn hyny yr oeddwn i, a'm teulu yn Llandeilo yn gorphen cadw tafarn, a gorphen hefyd hyny oedd o eiddo.

Mi a ddaethum a'r ferch ganol o'r tair gyda myfi i'r North yn gyntaf, ac a'i prentisiais yn. Nghaer yn Filiner, ac a'i cedwais â chyunaliaeth bwyd a dillad, wrth chwareu. Ac o'r diwedd fe ddaeth y wraig adref, gyd â'r ddwy ferch eraill, ac a baciasant ryw faint o bethau, gwely, a dillad, a llyfrau; ac fe aeth y pac trwy Lundain; fe gostiodd am eu cario y'nghylch cynmaint: ag a dalent.

Ond fe ddygwyddodd i mi: gael arian, oedd: ar Cynfrig o Nantclwyd i mi, am gario coed: o Ruddlan pan oeddwn yn cario coed o Rug; ac hefyd arian am gario center pont Rhydlanfair: o Gaer. Yr oedd hyny, gydâ. chwareu, yn dipyn o help at gynnal y teulu. Pan ddaethom i Ddinbych, nid oedd un tŷ, nes y dygwyddodd i mi gael rhyw ddau dŷ bychain, a minnau a'u gwnaeth yn un, ac a'u taclais; a dyna. lle yr wyf fi am gwraig etto.

Ac yn oedd gan fy nhad dŷ a thipyn o dir, rhwng Nantglyn a Llansanan; ond pan fu fy nhad farw fe aetb cyfreithiwr Dinbych, am yr hen felldith, ac a droes fy mam i'r mynydd, ac a feddiannodd y tin; a chyda chwaer i mi wrth Lanelwy, y bu fy. mam farw.

Ac ar fyr gwedi hyny, fe ddaeth clefyd, ar y cyfreithwr; minnau a ysgrifenais atto yn lled erchyll, ac a ddechreuais osod rhai o