Tudalen:Hanes bywyd Thomas Edwards bardd gynt o'r-Nant.pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

clywn lais eglur yn dywedyd, wrthyf, "Dos, ac na phecha mwyach, rhag digwydd i ti beth a fo gwaeth ac felly yn dal i ddywedyd hyd oni ddaeth pobl attaf. Mia ofynais i'r rheiny a oeddynt hwy yn clywed ddim llais? hwythau a ddywedasant, nag ydym ni.

A phryd arall y cefais waredigaeth neillduol wrth lwytho pren mawr yn nghoed Maes y Plwm. Yr oedd cario y pryd hyny cyn unioni y ffyrdd, a'u gwneud yn durnpikes, ar waggons a ffram arnynt, a rowler ar y canol tebyg i'r peth aelwir bowlster; minnau oeddwn yr ochr nesaf i nant ddofn, yn troi yn y rowel, gyda throsol haiarn cryf ar olwg; fe dorodd hwnw yn nhwll y rowel, onid oedd y dynion ag oedd yn edrych, yn fy ngweled yn troi fel mountebank, ac yn disgyn yn nghanol tomen o gordwood, ag oedd gwedi eu taflu ar eu gilydd y'ngwaelod y nant. Mi a gefais beth dychryn, ond ni friwiais i ddim, gymaint a thori crimog.

Felly trwy ryw ragluniaethau, mi a gefais fy achub hyd yn hyn. Hi a fu yn lled gyfyng arnaf lawer gwaith; ond yr oedd i mi beth ffafr, mewn gweithio pan finais yn chwareu.

Mi a fu'm y blynyddoedd cyntaf ar ol dyfod o'r Debeudir, yn Saer Maen, yn cymeryd gweithiau, ae yn cadw gweithwyr; ac un haner blwyddyn, mi aethym at y bricklayers i Lan y wern, i ddysgu peth o'r gelfyddyd hono; ac felly mi a ddysgais weithio'n lew ar briddfeini.

Ac yn awr, er's pedair neu bump o flynyddoedd, fy ngwaith yw gosod ffyrnau haiarn, neu bobtŷau, medd rhai: ac hefyd