Tudalen:Hanes bywyd Thomas Edwards bardd gynt o'r-Nant.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyny sydd gyffredin yn y byd erioed; yn enwedig ar y gwyr oedd fwyaf enwog y'mhob oes. Ac oblegyd hyny mae achos mawr i mi ystyried fy ffyrdd, ac ymofyn am Waredwr, gan na allaf mo'm gwared fy hun, heb gaffael adnabyddiaeth o deilyngdod y Cyfryngwr; yn yr hwn, gobeithio, y bydd i mi derfynu fy amser byr ar y ddaear, yn heddwch Duw i dragywyddoldeb. Amen.

THOMAS EDWARDS

CERDD,

Am ryfeddol ddamwain a fu wrth bont Rhuddlan sef; i Waggon, a thair tunell ond Troedfedd o goed, redeg ar draws dwy goes y Prydydd, ac heb dori ei Esgyrn, &c.

Cenir ar Gwel yr Adeilad.

CYD nesed pob dyn isel,
I wrando llafar chwedel,
Llef hen bechadur;
Gŵyr llawer dyn am danaf,
Fy mod yn un hynotaf,
Dan wyniau natur:
Drwy'r byd, fy hanes aeth o hyd—
Am bob ynfydrwydd, a sur wagsawrwydd,
Bum fel yn arglwydd, neu freni nebrwydd fryd
Nes imi hau â'm gwagedd,
Dir Gwynedd draw i gyd-