Tudalen:Hanes bywyd Thomas Edwards bardd gynt o'r-Nant.pdf/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Swydd syn— bum felly'n chwalu chwyn
Hyd faesydd trachwant, mewn ofer nwyfiant
Gan chwydunrygchwant,fel llyffent ar folllya
Dangosodd Duw drugaredd,
Yn rhyfedd i mi er hyn

Cês lawer galwad goleu,
Trwy neril a rhagluniaethau.
Duw cyfion ethol;
Gorchymyn ar orchymyn,
A lein ar lein wir linya,
O'i air olynol:
Uwch'ben, fy egraidd lygraidd len,
Bu ganwaith gynyg marwolaeth beryg,
Gan goed a cherrig, ond, er pob sarrug sen,
Nid oeddwn, o'm traeni,
Yn profi mwy na'r pren!
Cês faithwyra gofid lawer gwaith,
Trwy ffalster dynion, a lid gollediou,
'Nifeiliaid meirwon; ac amryw greulon graith,
Gollyngais oll yn angof,
Heb fawr deimlo f'ofer daith.

Er bum yn cael i'm calon,
Awelon iach o dirion
Wir iechydwriaeth;
'Rwy 'rwan y'ngwlad estron,
Nid allai'r gerddi Sion,
Fawr gwrdd ysywaeth:
Mi gês fy ngollwng yn fy ngwres,
Ar ol fy chwantau, a'm cnawdol nwydan,
Nes i'm serchiadau fyn'd fel peirianau pica!
Oni wneir fi, gan yr Arglwydd,
O'r newydd, nid wvf nês-