Tudalen:Hanes bywyd Thomas Edwards bardd gynt o'r-Nant.pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

I lawr, fe ddarfu nodi 'nawr,
Gobeithio ar fwriad fy nwyn i deimlad,
Er mwyn i'm henaid, ail weled nefol wawr;
Fy hoedel cadwai'n hynod,
Er maint fy mhechod mawr.

Fel Dafydd mi fynegaf
Y modd mae'n ddyled arnaf,
Waith Duw'r cadernyd;
Yr hwn o'u drugarowgrwydd,
Yn ffrwd fy ffrwst a'm hawydd,
Achubai mywyd:
Llef llwm-pau dorai'r cloiau clwm,
A'r waggon rwywgedd, ar balmant egredd,
Tan lwyth helaethedd chwech ugain troedfedd
Aeth tros f'aelodau ar gerdded, [trwm,
O saled oedd fy swm!—
I'm craith-bu garw dwrw ar daith;
A diawi a'i deulu, 'n dweud fy nibenu,
Ond Duw er hyny a'm daliai fynu'n faith:
Boed iddo fyth heb fethiant,
Ogoniant am y gwaith.

At helpu nghlwyfau anafus,
Damweiniodd fod wrth f'ystlys
Wir fuddus feddyg;
Yr hwn mewn 'chydig ddyddiau,
Trwy Dduw, a wnaeth f'aelodau
Yn ddi-ffaeledig:
Gwnai mi, O Dad, dy ofni di,
A thro fi i deimlad, fy mawr ymwared,
Par i mi weled trwy gred a phrofiad ffri
Y galon galed gulaidd,
Nifeiliaid sy ynof fi:
Yn ffraeth dadseiniai d'air fel saeth,
I'm dwys rybuddio rhag pechu eto,