Tudalen:Hanes bywyd Thomas Edwards bardd gynt o'r-Nant.pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwna i mi gofio ail ddeffro 'nol a ddaeth
Rhag ofn am fyw'n ddideimlad,
Gael gweled golwg gwaeth.
Tro ataf, Arglwydd cyfion,
A meddalhâ fy nghalon,
Y'nghol dy fendith!
Gobeithio, Dad, gobeithio,
Na roddaist fi fel Pharao,
'N offeryn melldith!
Ondran dwy'n gwel'd ond gallu gwan,
Gan i gynhyrfu, at edifaru,
Er cael heb gelu, fy maeddu'n llawer man,
Ond fel mab Noa'n gwawdio,
Ar ol ymlusgo i'r lan-
Ar dir, fel Naaman 'rydwy'n wi'r,
Yn nerthol rymus, o gnawd trachwantus,
Ond eto'n warthus, rwy'n wahanglwyfus glir,
O Arglwydd tyr'd i'm helpu,
A hyny cyn b'o hir!

Caeth forwyn fy nghydwybod,
Sydd imi o'i rhadau hynod,
Yn rhoi dy hanes,
Mai ti yw'r Prophwyd penna',
Sy a'i 'mwared yn Samaria,
I'w dda-orddiwes;
'Mhob llun-darostwng di fy ngwŷn,
Na'd i mi drydar, am Abna a Pharphar,
Afonydd siomgar fy hagar wlad fy hun:
Tro fi i'r Iorddonen gyhoedd,
Sef dyfroedd Mab y dyn:
Nid oes a all olchi bryntni f'oes,
Ond gwaed yr Iesu, yr hwn a ddarfu,.
Drwy angeu drengn, gan grymu ar bren y groes
Ow gâd, er i mi bechu,
Duw, lechu er mwyn dy loes.