Tudalen:Hanes bywyd Thomas Edwards bardd gynt o'r-Nant.pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ni roddaist, Iesu tyner,
Mo'th werthfawr waed yn ofer,
Tros fyd anafus;
D'efengyl sy'n rhoi galwad,
I bob rhyw bechadiria'd,
O'u beichiau dyrus;
'Rwy'n un pechadur ammur wŷn,
Nad oes mo'm dwysach, a ffydd feiddiach,
Y'mbob cyfeddach, amuwiol afiach lun ;
A chalon ddrwg yn wastad,
Ddideimlad o Dduw a dyn.—
Bu'n hy—fel mab afradlon fry,
Yn treulio f'amser, yn mhob gwag bleser,
'Rwy'n awr mewn caethder,
Er maint o falchder fu;
Mae 'agolwg ar fy ngwaeledd,
Yn ofni dialedd du.

Duw gwna imi gan fy newyn,
Gynhyrfu, ymroi a chychwyn,
I'mofyn lluntaeth,
Na ad im' siomi 'nghalon,
Trwy 'mhorthi ar gibau gweigion,
Gorwagedd bariaeth,
O Dduw! dod imi fanna i fyw,
Dod olwg liwgar, i'th wel'd yn hawddgar,
Rwy'n ddull, 'rwy'n fyddar, dod imi glaiar glyw
Wyt hefol fuddiol Feddyg,.
O'th wir garedig ryw-
Pob syth, oer drwst ragrithiol druth,
Dadwreiddia o'm hyspryd, a dysg fi'n astud
Yn ffordd y bywyd, da lwysfryd a dilyth;
A dod, Amen, ddymuniant,
I ganu'th foliant fyth.

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

LLANRWST, ARGRAFFWYD GAN J JONES.