Tudalen:Hanes bywyd Thomas Edwards bardd gynt o'r-Nant.pdf/7

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond i ddyfod at fy addewid, mewn perthynas i'm treigliad yn y blaen: mae yn debygol ddarfod blino ar gwmpeini o'r fath ag oeddym ni yn nhŷ fy nhaid a'm nain; fe orfu iddynt symud i'r naill gŵr i'r tir, i le a elwir Coed Siencyn, lle buwyd gylch blwyddyn neu ragor, a hynny cyn y Rhew Mawr, pryd yr oedd y farchnad yn ddrud iawn, a'r gwanwyn canlynol fe ddaethpwyd i'r Nant, gerllaw Nantglyn, yng nghwrr plwyf Henllan, lle mae lle a'i enw Cwm Pernant, neu Gwm Abernant, lle bu un Sion Parry, prydydd ag oedd yn perchenogi y lle hwnnw. A'r Nant sydd ganol o dri thy yn y cwm hwnnw, sef y Nant Isaf. Ac yn y Nant Uchaf yr oedd pobl a chanddynt fachgen at yr un pryd ag yr oeddwn innau yn dechreu codi allan; ac oblegid eu bod hwy yn fwy ardderchog o ran pwer ac ablwch, gan nad oedd yno ond dau blentyn, ac o honom ninnau ddeg, ac o barthed hynny fe'm galwyd i yn Dwm o'r Nant, ac yntau yn Domas Williams. Ond cyn neidio yn rhy bell o'r dechreu, yr wyf yn cofio, pan oeddwn ychydig dros dair blwydd oed, a myfi yn dyfod gyda fy mam oddi wrth y pistill o nol dwfr, ac yr oedd ar gornel y ty ysgol galchu wyth lath o hyd, ac wedi ei rhoddi i rwystro y gwynt godi y to; minnau, yn lle dilyn fy mam, aethum i ben uchaf yr ysgol. Ac ewythr imi, frawd fy nhad, a'm tâd bedydd innau, ddaeth heibio. Minnau a ddywedais, "Edrych yma, tada bedun, lle dw i." Yntau, gan ddywedyd yn deg wrthyf, rhag i mi ddychrynu a thorri'n ngwddwf, a ddaeth ac a'm cymerodd i lawr; ac ni chafodd fy mam ddim gwybod pryd hynny rhag iddi gael dychryn gan ei bod yn feichiog ar y trydydd plentyn.