Tudalen:Hanes bywyd Thomas Edwards bardd gynt o'r-Nant.pdf/8

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwedi hynny ar fyrr, pan oedd fy mam wedi fy ngadael i a'm chwaer yn y gwely y boreu, a myned i ryw neges i dŷ cymydog, pan ddeffroais i a dechreu galw Mam, heb neb yn ateb, mi a gymerais fy esgidiau ar fy nhraed, a'm het am fy mhen, ac aethum i dŷ fy nain yn noeth lymun. Ond fy nain a'm cymerth ac a'm rhoddes mewn gwely cynnes. A chyn pen hir dyma fy mam yn dyfod, wedi amm eu pa le gallwn fod, a'm dillad yn ei ffedog, a'r wialen fedw yn ei llaw. Fe fu yno ffwndwr mawr; un am fy achub a'r llall am fy ngheryddu; ond, beth bynnag, mi gefais fy hoedl gyd rhyngddynt. Yr oedd fy mam yn fy ngwarchae, fel ag y daethum yn y blaen; ni feiddiwn i na thyngu nac enwi Duw yn ofer; ac yn wir, drwy drugaredd, fe safodd yr addysg honno wrthyf byth.

Pan oeddwn yn blentyn, fe fyddai arnaf ofn Duw; ac ofn, pe buasai i mi alw y cythraul, y daethai i'm nol yn y funud.

Ond ymhen ychydig, oddeutu chwech neu saith mlwydd oedran, daeth ysgol rad i Nantglyn; mi a gefais fyned yno i ddysgu y llythyrenau. Ond yr oedd llawer o son ymysg hen wragedd cyfarwydd y wlad y byddai iddynt fyned a'r holl blant i ffordd pan ddelent yn fawrion, oblegid eu bod yn rhoi eu henwau i lawr; ond beth bynnag, ni chlywais i un o honom fyned. Ond fe aeth y frech wên a myfi adref yn sal; ac yn ol gwella o honno yr oeddwn yn rhy gryf i allu hyfforddio colli gwaith ac amser i fyned i'r ysgol; fe orfu i mi ddysgu gyrru yr ychen i aredig a llafurio yn hytrach na dysgu darllen; ond fe fyddai fy mam yn adgofio i mi yr egwyddor yn fynych iawn.