Tudalen:Hanes bywyd Thomas Williams, Capelulo.pdf/10

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mwy o onestrwydd, y byddai hyny yn llawer gwell i'r oesau a ddeuant na'r dull a gymerir. Gwnai y meddwl y byddai hanes holl gampau drygionus ac ysgeler dyn ar gof a chadw, i lawer un edrych pa fath lwybrau a wnelai i'w draed, wrth fyned drwy y byd; ond y mae y dull darnguddiadol a gymerir gyda hanes bywydau dynion, yn gyffredin, sef, peidio coffa ond yr hyn fydd yn anrhydedd iddynt, yn peri i amryw fod yn hollol ddiofal pa fath fywyd fyddant byw; oblegid y maent yn gwybod y bydd rhyw rai yn ddigon gofalus am eu coffadwriaeth fel na cheiff dim ond y da ei gyhoeddi. Y mae y Bibl yn rhoi y da a'r drwg am bob un yr ysgrifenai; heb hyny nid oes fodd cael allan y gwirionedd; ac nid ydyw coffa am y drygedd ond yn peri i'r daioni fod yn fwy dysglaer a llewyrchus. Y mae dangos y dyfnder y mae dyn wedi bod ynddo, mewn halogrwydd a thrueni, yn dangos mawredd y drugaredd a'i hachubodd; ac yn ei osod yntau dan rwymau parhaus yn ngolwg pob un i fod yn ddiolchgar am ei waredigaeth. Nid ydyw yn gweddu i rai a gafwyd yn isel iawn mewn pechadurusrwydd siarad yn uchel am y gweddill o'u hoes; gan nad beth fyddo eu rhinweddau ar ol eu galw o dywyllwch i oleuni ; oblegid y mae ganddynt hwy fwy o waith nag a allant gyflawni mewn amser byr i ddyfod i'r marc yr oedd ereill yn cychwyn oddiwrtho pan oeddynt hwy yn y ffos. Gormod o waith iddyn fyddo wedi bod dros ei ben am flyneddau mewn halogrwydd fydd enill digon o ragoroldeb yn fuan i'w osod ef mewn sefyllfa y gall lefaru yn hyf gyda golwg ar gyflyrau ereill. Dylai yn hytrach rodio yn alarus dros y gweddill o'i ddyddiau , a diolch am i'w gymydogion gymeryd sylw o hono; ac uwchlaw y cwbl