Tudalen:Hanes bywyd Thomas Williams, Capelulo.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn agored i gael ei alw i gyfrif. Y mae yn ddeddf iddo ei hunan mewn amryw amgylchiadau. Y peth mwyaf y mae Tomos Williams yn gyfaddef yn ei erbyn ei hun yw meddwdod a phuteindra; nid ydyw yn son fawr am ei orchestion fel lladdwr ei gyd ddynion mewn gwaed oer; ond yr oedd ei gyflwr yn ddu iawn yn rhestr meddwon, godinebwyr, celwyddwyr, &c. tra bu gyda'r fyddin: yr oedd efe yn rhydd i wneud pob cast er mwyn cael diod. Costiodd i'w gnawd a'i esgyrn ddyoddef lawer gwaith o achos ei fariaeth. Wedi iddo ddyfod yn rhydd dilynodd yr unig swydd ag oedd yn debyg o gadw y defnyddiau oedd yn ei enaid llygredig i gyneu; sef, gyru gwartheg a moch. Bu mewn cyfyngderau mawrion lawer gwaith, ac nid oedd dim ond ei feddwdod a'i ddigywilydd-dra a allasai ei wared o honynt. Yr oedd efe, yn ddiameu, yn un gwir ddrygionus cyn ei ddychwelyd at grefydd; ac un o'r pethau rhyfeddaf yn yr oes hon yw ei fod ef yn fyw ar ol goddef cynifer o driniaethau celyd y buasai yn gofyn nerth behemwth i fyned drwyddynt? ond y peth rhyfeddaf oll yw ei fod yn proffesu crefydd. Nid oes gan neb ddim amgenach na da i'w ddyweud am dano, er pan y mae wedi ymuno â chrefydd. Y inae efe yn ffyddlawn hyd at ddiareb gyda phob moddion crefyddol; ac y mae yn ymddangos fel dyn yn cael hyfrydwch yn ffyrdd crefydd. Nid oes dim wedi cymeryd lle hyd yma i beri i neb ammeu nad ydyw Tomos Williams yn bentewyn wedi ei achub. Gyda golwg ar ei ardystiad y mae wedi cadw ato yn holol, er y dydd y dodes ei enw ar y llyfr. Yr ydym yn cwbl gredu fod cymaint o awydd ynddo am sefyll at ei air, yn hyn, ag oedd yoddo. o'r blaen at feddwdod a phechodau gwarthus ereill.