Tudalen:Hanes bywyd Thomas Williams, Capelulo.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddynwared yn chwareu y delyn. Yr oedd yno foneddwr a boneddiges o'r Iwerddon yn aros i fwrw yr haf, y rhai a alwent am danaf yn aml i'w hystafell i ddynwared y telynwr, gyda choes ysgub neu rywbeth cyffelyb; ac yr oeddwn yn gwneyd mor debyg iddo ac yn eu difyru mor fawr, fel y gorchymynent roddi ciniaw i mi bob dydd braidd o'u bwyd eu hunain. Yr wyf yn cofio i mi ddyfod o hyd i boteli gwin gweigion yno, a fy mod wedi dyferu yr ychydig ddafnau ddygwyddodd fod yn eu gwaelod; a thrwy rhyw fân lymeidiau felly, yn nghyd ag ambell i lwnc gan y morwynion, am wneud negesau iddynt, dechreuais hoffi gwiriodydd nes arfer eu hyfed yn fynych. Yr amser hwnw yr oedd Coach fawr yn rhedeg o'r Amwythig i Gaergybi; a thra safai wrth bont Llanrwst i newid ceffylau, byddai'rhai boneddigion yn taflu arian oddiarni i'r afon, a neidiwn inau i'r gwaelod i'w codi, er mwyn eu cael, yn benaf, i'w rhoddi am ddiodydd meddwol.

Pan wnelun ryw ddrwg yn yr Eagles, rhedwn adref i Capelilo. (Capelilo y gelwid tŷ fy nhad am ei fod yn debyg i dŷ o'r enw yn Nwygyfylchi; ac oddiwrth hyny y gelwir finau hyd heddyw yn "Twm Capelilo.") Bum yno am ddwy flynedd yn farch was, (Ostler,) a thrwy fy mod yn fachgen bywiog, mentrus, a direidus, rhoddwyd fi i yru yr Express oddiyno i'r Cernioge, gyda merlyn gwyllt a chastiog o'r enw "Paul Jones". Un noswaith cyn i mi fyned yn 'mhell oddiwrth y dref, dychrynodd a neidiodd yn ol yn sydyn nes y syrthiais i lawr, a bum yn hir hyd y ffordd yn methu ei ddal, a thrwy hyny gorfu imi golli llawer o amser. Pan ddaethum yn ol, gorchymynodd Mr. Mouldsdale i ddau o'i weision fy nghuro yn yr ystabl. Ymadawais oddiyno ac