Tudalen:Hanes bywyd Thomas Williams, Capelulo.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

am dair awr bob dydd ; meddwais inau yno, ac aethum gyda dynes ddu o Hottentot, ond nid ar feddwl da, fel y gellid tybio. Gwelodd un o'r swyddogion fi; a daeth ataf i fy anmharchu a fy nghuro, tarewais inau ef lawer gwaith; ac ar ol hir ffrwgwd ac ymladd mi a sobrais. Achwynodd arnaf, a rhoddodd fi yn ngharchar i gael fy mhrofi am ei darawo. Dedfrydodd y Court Martial fi i gael fy fflangellu gyda'r gath naw cyntfon fil ond un 1999) o weithiau. Pan ddaeth yr amser dywedodd un o'm cyfeillion wrthyf yn ddystaw ei fod wedi rhoddi haner potelaid o frandi yn y geudy (tŷ bach,) os medrwn gael myned yno. Gofynais i'r swyddogion am gael myned i'r geudy, a gadawsant i mi fyned, gan fy nilyn gyda'u cleddyfau yn noethion at y drws; (ond ni chaw'swn fyned pe gwybuasent pa beth oeddwn yn ei wneud yno.) Llyncais y brandy a daethum allan. Yna arweiniwyd fi at yr ystanc trithroed, a thyrfa fawr o filwyr arfog yn fy am gylchynu. Wedi i mi ddyoddef 800 o ffrewylliadau, dywedodd y meddyg nas gallwn ddal ychwaneg ; "Na gorphenwch y cwbl," ebe finau, yn fy ffyrnigrwydd. "Williams," meddai yntau , "gwell i chwi atal eich tafod, onide rhaid i chwi gymeryd y cwbl." "O'r goreu, Syr, gwnewch felly," ebe finau. "Na cymerwch ef ymaith i'r clafdy," meddai yntau: ac felly y bu:—ni soniwyd byth am y gweddill. Cefais amgeledd dda yn y clafdy; oblegid yr oedd pawb yn hoff iawn o honwyf, ac yn casâu fy erlynydd, sef y swyddog a'm carcharodd. Ar ol gwellâu ychydig, anfonwyd fi ac ereill o'r milwyr i le bychan, ugain milldir yn y wlad, i lafurio ar dyddyn y Major; ac un diwrnod daethom o hyd i wîn yn y palas, ac yfasom o hono; ond ni feddwodd neb ond