Tudalen:Hanes bywyd Thomas Williams, Capelulo.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

myfi yn unig. Dedfrydodd y Major fi i gael fy flangellu; ond cefais fy arbed trwy i'w wraig eiriol troswyf, am fy mod wedi bod yn adrodd hanesion am y Cymry wrthi ryw dro cyn hyn.

Dychwelsom o'r lle hwn i Alikan bay; ac oddi yno hyd y môr i Cape of Good Hope. Pan oeddym oddeutu saith milldir oddiwrth y tir, meddwais yn drwm, ac yn fy meddwdod ymdrechais gael lle i neidio i'r môr, gan feddwl am nofio at y lan, a dianc oddiwrth y fyddin; ond pan oeddwn ar neidio dros ymyl y llong i'r môr, gafaelodd un o'r milwyr yn fy hugan, ac wedi perswadio ychydig arnaf aeth a fi i le diogel nes sobri. Wedi cyrhaedd Cape Town rhoddwyd ni yn y Barracks oedd yno. Ar ol paradio yn y prydnawn byddem yn cael myned allan hyd y dref: ac er mwyn cael pres i gael diodydd, byddwn i yn myned i balasau ac at foneddigion i ganu hen donau Cymreig, ac i chwareu y "delyn bren" a dynwared y bands; a byddwn yn cael llawer o fwyd ac arian lle byddai fy nghydfilwyr yn methu cael dim heb ladrata: yr oeddwnl yn rhagori ar bawb o'r fyddin yn hyny o beth. Meddwais yno, ac arosais yn y tafarndai am ddau ddiwrnod yn lle myned i'r Barracks bob dydd yn rheolaidd; a phan ddeuais yn ol i'r Barracks, rboddwyd fi mewn cyffion yn y garchargell. Dygwyd fi ger bron y Court Martial, — a'r gosb a gefais oedd dyoddef 500 o flangellau. Pan oeddid yn fy fflangellu, gwaeddais ar y Major an iddo drugarhau wrth Gymro tlawd a diniwaid; a gwrandawodd ar fy llef, a maddeuodd 300 i mi. Cymerwyd fi i'r Meddygdy (Hospital) at ugain 'ereill oedit yn yr un cyflwr; a gyrid ni fel gyru anifeiliaid bob bore i'r môr; ac yr oedd y dwfr hallt yn llosgi yn dost yn y briwiau ar ol y gath naw cynffon.