Tudalen:Hanes bywyd Thomas Williams, Capelulo.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Wedi i ni wellâu ychydig cychwynasom i Bombay, yn yr India. Ac ar y fordaith hono dechreuodd y llong ollwng dwr i mewn; a byddem yn ei bympio allan ddydd a nos yn ddigyswllt. Yr oedd y Captain yn methu gwybod beth i'w wneud, a oedd yn werth ei throi i ryw borthladd ai peidio, i edrych beth oedd arni. Un diwrnod galwodd ar bawb i fynu ar ei bwrdd, yn cynwys Gwyddelod, Scots, Saeson, Danes, Swedes, Portuguse, a minau yn unig Gymro. Gofynodd i bob un o honom a fedrem ni nofio, gael iddo wybod pa ffordd yr oedd y dwfr yn dyfod i'r llong, a nacaodd pawb addef y medrent. Pan ydoedd yn gofyn fel hyn i mi, a minau yn gwada y medrwn, daeth rhyw lieutenant oedd yn fy adnabod yn mlaen, a dywedodd wrthyf, "Peidiwch a dweyd celwydd wrth eich Captain, Williams,—chwi yw y nofiwr goreu a welais i erioed." "Wel, yn wir, Syr, y mae arnaf fi ofn i'r Sharks fy llyncu," ebe finau : ac felly naceais wneuthur eu cais. Ond yn mhen oddeutu haner awr daeth Steward y Captain heibio wrth ranu bwyd, a dywedodd wrthyf fy mod yn un gwael iawn yn nacâụ gwneud cais y Captain: "Dowch menirwch," meddai, gan roddi "liquors" i mi i'w yfed. Dywedais inau yn mhen ychydig funndau fy mod am fentro, a thynais fy nghrys a neidiais dros ymyl y llong i'r môr. Suddais o dani, a gwelais fod un o'r estyll yn dechreu hollti, a bod y lleni cop (copper-sheets) yn codi oddiar yr agen. Pan ddeuais i fynu o'r dwfr, gwnaeth y Captain i mi fyned ar fy llw fy mod yn dweud y gwir: a dywedais wrtho bob peth a welais, a fy mod yn meddwl yn sicr mai trwy yr agen hono yr oedd y dwfr yn cael ei sugno i fewn. Pan glywodd y Captain hyny