y cwbl cyn ymadaw â hwnw. Yn mhen diwrnod neu ddau aethum yn ol at fy meistres mor llwm ag , oeddwn yn cychwyn. Ac wedi i mi ddywedyd wrthi fel y bu, dymunodd arnaf beidio gwneud felly byth mwy; a rhoddodd ychydig arian imi drachefn i geisio dillad: ond gwastreffais y rhai hyny yr un modd. Arosais allan yn feddw ar gam amser ar y nos; cymerodd y cwnstabliaid fi yn garcharor i gas tell mawr. Yn mhen rhai wythnosau dygasant saer yn perthyn i'r un llong a mi yno am yr un trosedd; a daeth y Captain yno i'r ymofyn ac i'w ryddâu, a gwelodd finau yno, ac a'm rhyddaodd. Oni buasai i’r saer hwnw ddygwydd cael ei garcharu, ni buaswn i byth yn medru dyfod oddiyno: oblegid nid oeddwn yn ngolwg y Captain yn werth chwilio am danaf. Ymgasglodd y milwyr â phawb o'r mor deithwyr i'r llong, ac aethom heibio St. Helena i geisio dwfr croyw. Ni chefais i fyned yn was i'r foneddiges mwyach: rhoddwyd fi i wneud gwaith caled perthynol i'r llong. Yn mhen yr wythnos hwyliasom o St. Helena tua Lloegr, a glaniasom yn Plymouth, lle yr ydoedd Buonaparte mewn dalfa mewn llong, wedi ei gymeryd ar ol rhyfel Waterloo, yr hon oedd wedi terfynu ddiwrnod neu ddau cyn i mi gyraedd Plymouth.
Daeth heddwch cyffredinol drwy holl Ewrop, a chefais inau ryddad oddiwrth y fyddin; ond nid oedd pension i neb a ryddheid y pryd hwnw . Yr oedd genyf bedair punt a phedwar swllt yn fy mhoced pan laniais yn Plymouth. Troais i mewn i un o'r tafarndai yno a gwerias oddeutu pedwar swllt a meddwais, ac aethum i gysgu y noswaith hono i dy drwg. Erbyn i mi sobri a deffro yn y bore, yr oedd rhywun wedi fy yspeilio o fy arian a