Tudalen:Hanes bywyd Thomas Williams, Capelulo.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fy holl ddillad. Pan welais hyn tarewais y ddynes ddrwg yn fy ngwylltineb nes oedd ei gwaed yn pistyllio hyd y lloft, gan feddwl mai hi oedd wedi gwneud. Aethum allan hyd y dref y dydd canlynol yn ddigalon iawn; a daethum yn ol i'r un tŷ ag y collais fy arian, a gofynais i ŵr y tŷ am lety y noswaith hono, a chefais le ganddo. A rhywbryd yn y nos daeth a dyn du mawr (Black) o longwr i gysgu i'r un ystafell a mi, a chlöodd y drws arnom ein dau.

Aethum o Plymouth i Bridgewater. Yr oedd yn y lle hwn long o Casnewydd wedi dyfod a glo yno hyd y gamlas (canal;) a chefais ddyfod gyda hono i Casnewydd, trwy weithio arni i dalu am fy nghludiad. Daethum oddiyno yn mlaen i Merthyr Tydfil, gan fegio hyd y wlad at fy nghynaliaeth. Cefais wyth swllt a llawer o fwydydd mewn un palas oedd ar fin fy ffordd, gan foneddigion oedd wedi dyfod yno, trwy gwyno wrthynt, a dywedyd fy mod yn filwr, wedi bod yn Affrica ac America, a bod rhywun wedi fy yspeilio yn Plymouth o'r hyn oll a feddwn .

Cerddais o’r Merthyr dros fynyddau mawrion a thrwy lawer o drefi y Deheudir hyd at Gorwen , ac i Gapel Curig, lle y cefais groesaw mawr gan Mr. Hughes, un anrhydeddus am ei groesaw i'r tylawd, a chan ereill oedd yn fy adnabod i yno. Daethum adref dranoeth o Gapel Curig i Lanrwst; ac ar y ffordd troais i fegio i'r Glynllugwy, a dywedodd gwraig y tŷ fod fy nhad yn glaf iawn — fod gweddi gydag ef yn Eglwys y plwyf y Sul o'r blaen. Daethum yn mlaen dros Nant Bwlch yr heiyrn, a throais i dŷ James Harker, i aros nes deuai yn nos, oblegid yroedd arnaf gywilydd dyfod i'r dref yn y