Tudalen:Hanes bywyd Thomas Williams, Capelulo.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dydd, an fod golwg lled lwm a thruenus arnaf. Pan gyraeddais y dref, aethum i dŷ cefnder i mi, ac aeth y wraig i dŷ fy nhad mewn mumnd i ddweud fy mod yno; daeth fy chwaer gyda hi yn ol, a phan welodd hi fi, dywedodd, "Nid Twm fy mrawd ydyw hwn!" "Ie, chwaer bach, dy frawd ydwyf," ebe finau, gan wylo. Yna aethum gyda hi adref i'r tŷ, lle yr ydoddd fy nhad yn ei wely yn bur sal, a gof. ynais iddo, "Nhad bach, ai sal iawn ydych chwi, — Twm ydwyf fi." "Ai Twm wyt ti, machgen bach i!" ebe yntau. "Ie, nhad bach," ebe finau, dan wylo. "O b'le doist ti?" meddai, "O Plymouth, drwy y Deheudir," ebe finau. "Yr wyt ti yn edrych yn llwm iawn," medd drachefr "Ydwyf, yr wyf fi felly, —cefais fy yspeilio o fy holl ddillad, a llawer o arian; ond y mae genyf ychydig eto wedi eu casglu trwy fegio hyd y ffordd adref." Wel, Beti bach," meddai wrth fy chwaer, "yr wyf yn ewyllgsio i Twm gael yr holl ddillad a roddais i Jack ei frawd. Daeth Owen fy mrawd o Gaergybi i edrych am dano yn mhen y ddeuddydd wedi i ini ddyfod adref, ac aeth yn ei ol dranoeth; a bu fy nhad farw y dydd canlynol. Yr oedd fy mam wedi marw er's blynyddau cyn hyny.

Ar ol claddu fy nhad aethum i weithio ar y ffordd newydd oedd yn cael ei gwneud o'r Amwythig i Gapel Curig a Chaergybi; a byddwn yn byw gyda fy chwaer yn Llanrwst. Wedi gorphen y ffordd uchod arferwn wneud negesau i foneddigion o gylch y dref, a gyru gwartheg i Loegr. Pan oeddwn gartref cyn myned at y fyddin, yr oeddwn yn caru merch ieuanc o Eglwysfach: ond erbyn i mi ddyfod yn ol yr oedd hi yn wraig weddw a chwech o blant ganddi. A phan oeddwn yn gweithio yn Ngwydyr