Tudalen:Hanes bywyd Thomas Williams, Capelulo.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

priodais hi, a bu farw yn mhen chwe' blynedd. Rhoddais y plentyn a gawsom i Beti fy chwaer i orphen ei fagu, a gwasgarwyd y plant oedd ganddi o'i gwr cyntaf i leoedd i wasanaethu.

Ar ol claddu fy ngwraig, troais yn grwydryn ac yn feddwyn gwaeth nag erioed. Aethum gyda gyr o wartheg i Brentwood, tu draw i Lundain. Can gynted ag y derbyniais fy nghyflog, dechreuais yfed yn y tafarndai, a meddwais yn drwm: ac yspeiliwyd hyny o arian oedd yn fy mhocedau. Gwynebais tua Chymru, gan fegio yn mhob man y meddyliwn y byddai rhywbeth i'w gael .

Wedi cyraedd Llundain, a lletya noswaith yn Whitechapel Street, deuais yn mlaen hyd Barnet Road, gan gyfeirio tua hon troais i dŷ tafarn mawr, a dywedais fy hanes wrth ŵr y tŷ, gan gwyno nad oedd genyf ddim arian — fy mod yn hen yriedydd (driver) o Gymru; a gofynais iddo am gael lle i gysgu yn yr ystabl. "Beth, a ydych yn meddwl y gadawaf fi i ddyn dyeithr fel chwi fyned i'r ystabl lle mae cymaint o ffrwyni a chyfrwyon, a phethau gwerthfawr ereill?" meddai wrthyf yn ddifrifol, "Wel, yn wir, pe bai yno fwy ganwath o bethau gwerthfawr, ni chymeraf fi ddim oddiyno," ebe finau yn gwynfanus. Yna gofynodd i'r ffarmwr oedd yn dygwydd bod yno yn yfed , "Beth ydych chwi yn ei feddwl o'r hen Gymro hwn?" Wel, fe allai ei fod yn dweud y gwir, a'i fod yn onest — gwell genyf ti Gymro na Gwyddel." Yna gorchymynodd gwr y tŷ i'r Ostler wneud lle i mi yn yr ystabl Rhoddodd fwyd i mi hefyd, a chefais lawer o ddiod a phres gan y ffarmwyr oedd yno yn eistedd. Cefais wydraid o gin ganddo wrth gychwyn oddiyno bore dranoeth. Wedi dyfod drwy dref Barnet, ar y